Y Cymro, Gareth Bale, oedd un o arwyr Spurs unwaith eto wrth iddyn nhw guro Inter Milan 3-0 yng Nghynghrair Europa.
Fe sgoriodd gôl gyda’i ben o fewn pum munud a tharo’r postyn hefyd – ond fe gafodd gerdyn melyn am ddeifio ac fe fydd yn colli’r gêm oddi cartref yr wythnos nesa’.
Ac yntau wedi sgorio 14 gôl ers troad y flwyddyn, roedd cyn reolwr Spurs, David Pleat, yn mynnu y byddai’r Cymro’n aros gyda’r clwb o Lundain.
Gylfi hefyd
Roedd yna gysylltiad Cymreig gyda’r ail gôl hefyd, gan gyn chwaraewr Abertawe Sylfi Sigurdsson.
Yn ôl rheolwr Spurs, Andre Vilas-Boas, roedd hi’n “noson Ewropeaidd” fawr ac yn fuddugoliaeth dda i’w dîm.