Ryan Jones
Mae cyn-asgellwr Cymru, Gerald Davies wedi dweud bod Ryan Jones yn un chwaraewr na all Cymru lwyddo hebddo, a’i fod yn hollbwysig i‘r tîm ar hyn o bryd.

Bydd Jones yn arwain Cymru yn erbyn yr Alban yng Nghaeredin ddydd Sadwrn, gan obeithio am drydedd fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor hwn.

Bydd Jones yn dechrau’n nes at Sam Warburton yn y rheng ôl, yn y gêm gyntaf i Warburton ddechrau lle nad yw’n gapten mewn bron i ddwy flynedd.

Dywedodd Warburton yn gynharach yr wythnos hon mai Jones yw’r capten gorau iddo chwarae gyda, a nawr mae Gerald Davies hefyd wedi canmol y blaenwr o Gasnewydd.

‘Parch’

“Wrth gamu ymhlith ei gyd-chwaraewyr, gyda sylw yma, a thap ar ysgwydd yna, mae i weld bod ganddo hen ddigon o amser, a dim brys,” meddai Davies.

“Mae rhywun yn dechrau teimlo ei fod y math o ddyn y byddai rhywun yn fodlon mynd i mewn i goedwig wyllt yr Amazon, yn gwybod y byddai ef yn siŵr o arwain at y goleuni ar yr ochor arall.

“Nid yn unig hynny, ond mae siawns y byddech yn cael amser da ar y ffordd!

“Mae Ryan yn derbyn llawer o barch gan ei gyd-chwaraewyr, a rheiny ar yr ystlys, sy’n gweld ei ddealltwriaeth o’r gem a’i nerth ar y cae.”

Bydd Ryan Jones yn arwain Cymru yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, am  2.30yh.