Michael Laudrup
Mae rheolwr Abertawe a cyn chwaraewr Real Madrid, Michael Laudrup yn credu bod y dyfarnwr wedi gwneud y penderfyniad anghywir wrth ddangos cerdyn coch i chwaraewr Manchester United, Luis Nani nos Fawrth.
Roedd Man Utd ar y blaen o 1-0 yn erbyn Real yn eu gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr, pan ddangosodd Cuneyt Cakir gerdyn coch i Nani am gystadlu am y bêl gydag amddiffynnwr Madrid, Alvaro Arbeloa.
Wrth i’r cochion chwarae ymlaen hefo 10 dyn, newidiodd y gêm gyda Madrid yn defnyddio eu mantais o chwaraewr ychwanegol i ennill y gêm o 2-1 a symud ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth.
‘Cerdyn coch? Byth.’
Wrth ymateb heddiw, dywedodd Laudrup ei fod yn credu bod y dyfarnwr wedi gwneud penderfyniad gwael.
“Mi wnes i wylio’r gêm ac er nad ydw i’n cefnogi Man Utd na Real, ni ddylai byth wedi bod yn gerdyn coch.
“Cerdyn melyn efallai, ond cerdyn coch? Byth.”
UEFA i gosbi Ferguson
Fe gyhoeddwyd heddiw na fydd bwrdd rheoli pêl-droed, UEFA yn cosbi amddiffynnwr Man Utd, Rio Ferdinand am wawdio’r dyfarnwr ar ddiwedd y gêm nos Fawrth.
Yn amlwg yn flin am ganlyniad yr ornest, aeth sawl un o chwaraewyr y cochion at y dyfarnwr ar y chwiban olaf.
Er na fydd Ferdinand yn wynebu cosb, dywedodd UEFA y byddai’r rheolwr, Syr Alex Ferguson yn wynebu cosb am wrthod a siarad hefo newyddiadurwyr. Mae rheolau’r gystadleuaeth yn dweud bod rhaid i reolwyr fod ar gael am gyfweliadau yn dilyn gemau.
Bydd Nani hefyd yn debygol o dderbyn gwaharddiad am y cerdyn coch.