Aaron Shingler
Bydd y Sgarlets yn teithio i Leinster ar gyfer gêm bwysig yng nghynghrair y RaboDirect Pro 12 gyda’r cyfle i gymryd pwyntiau oddi ar eu gwrthwynebwyr agosaf yn y gystadleuaeth.

Mae’r Sgarlets yn y pedwerydd safle yn dilyn buddugoliaeth wych yn erbyn Munster.

‘‘Mae’n rhaid mynd yn ôl i fis Hydref 2007 pryd y gwnaethom guro Leinster ar gae ei hunain.  Maent yn falch iawn o’i record wrth chwarae adref,’’ meddai hyfforddwr y Sgarlets, Simon Easterby.

‘‘Yr ydym yn hapus gyda safon ein gêm ar y funud, fe fydd hi yn anodd ond mae’r bechgyn wedi ymateb yn dda.  Yr ydym yn ennill pwyntiau trwy giciau cosb a gôl adlam a thrwy hynny yn cynorthwyo gwaith caled y blaenwyr o roipwyntiau ar y bwrdd,’’ ychwanegodd.

Bydd y blaenwyr rhyngwladol Aaron Shingler a Josh Turnbull yn dychwelyd i gadw cwmni i’r capten Rob McCusker yn y rheng-ôl.

Mae Aled Thomas yn symud i safle’r cefnwr yn lle Gareth Owen sydd wedi ei anafu, ac mae Easterby yn cadw ffydd yn yr haneri ifanc Aled Davies a Owen Williams.

Tîm y Sgarlets

Olwyr – Aled Thomas, Nick Reynolds, Gareth Maule, Adam Warren, Andy Fenby, Owen Williams a Aled Davies.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Jacobie Adriaanse, George Earle, Johan Snyman, Aaron Shingler, Josh Turnbull a Rob McCusker.

Eilyddion – Matthew Rees, Rhodri Jones, Samson Lee, Jake Ball Simone Timani, Gareth Davies, Kristian Phillips a Dale Ford.