Cwpan Capital One
Alan, mae gennych chi gysylltiad hir iawn gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe. Beth mae cyrraedd rownd derfynol Cwpan Capital One yn ei olygu i chi?
Mae’n golygu’r un peth i bawb. Mae yna ychydig o anghrediniaeth ein bod ni wedi cyrraedd rownd derfynol prif gwpan ond yn amlwg, mae yna deimlad o falchder mawr hefyd. Allwn ni ddim aros nawr i ddydd Sul ddod. Mae’n anodd credu yn ein canmlwyddiant ein bod ni wedi cyrraedd rownd derfynol un o’r prif gwpanau am y tro cyntaf yn hanes. Ond mae’n debyg ein bod ni wedi chwarae mewn gemau sy’n golygu mwy na hon – rwy’n credu bod y gêm yn erbyn Hull yn un oedd wedi ein galluogi ni i fynd ar y daith ry’n ni arni nawr. Y gêm yn erbyn Reading oedd yr un oedd wedi ein galluogi ni i gyrraedd yr Uwch Gynghrair. Ond mae’r ffaith ein bod ni yn yr Uwch Gynghrair nawr yn brawf amlwg o’r ffaith y gallwn ni dorri ein henw ar y bwrdd anrhydeddau, fel petai, ac mae cyrraedd rownd derfynol cwpan fawr bron iawn yn anghredadwy.
Rydych chi eisoes wedi crybwyll rhai o’r gemau mwyaf yn hanes y clwb. Sut mae rownd derfynol Cwpan Capital One yn cymharu gyda’r gweddill?
Ry’n ni wedi chwarae mewn gemau pwysicach yn nhermau lle’r y’n ni nawr fel clwb. O ran yr arian a ddaeth i’r clwb, y clod a’r bri, y ffaith ein bod ni’n chwarae ar y llwyfan sylweddol yma, mae’n wahanol oherwydd gallwn ni ennill cystadleuaeth fawr. Eleni yw’r canmlwyddiant ac allan o’r can mlynedd, ry’n ni wedi treulio pedair ohonyn nhw yn yr adran uchaf un. Efallai ei bod hi’n afrealistig credu y gallwn ni herio am wobrau drwy’r amser. Ond yn sicr, mae’r pum mlynedd diwethaf, a’r ddwy yn yr Uwch Gynghrair, yr arddull ry’n ni’n chwarae a’r ffordd mae’r clwb yn gweithredu nawr yn dangos pa mor bell ddaethon ni. Efallai mai hwn fydd yr unig tro y byddwn ni’n ymddangos yn rownd derfynol cwpan fawr, ond mae dyn yn cael y teimlad bod y clwb yn mynd o nerth i nerth. Pwy a ŵyr? Byddai’n gamp y bydden ni’n sicr yn dymuno ei hail-adrodd. Mae’r strwythur sydd yn ei le nawr yn golygu y gallwn ni wella drwy’r amser. Os gallwch chi ei gwneud hi unwaith, does dim rheswm pam na allwch chi ei gwneud hi eto. Mae’n gyrhaeddiad anferth i’r clwb.
A fyddech chi wedi gallu dychmygu ddeng mlynedd yn ôl y byddech chi yn y sefyllfa yma nawr?
Pe baech chi wedi dweud deng wythnos yn ôl y bydden ni yn y sefyllfa yma, dw i ddim yn credu y byddwn i wedi gallu dychmygu’r peth. Roedden ni ar fin mynd i’r wal ddeng mlynedd yn ôl mewn amryw ffyrdd. Rwy’n credu pe bai hi wedi dod i’r gwaethaf, a’n bod ni wedi disgyn o’r gynghrair i chwarae y tu allan iddi, y bydden ni wedi bod yn ddigon da i daro nôl. Ond a fyddai’r stadiwm lle’r y’n ni nawr wedi dod i fodolaeth, wn i ddim. Dw i’n sicr ddim yn credu y bydden ni wedi cyrraedd yr Uwch Gynghrair erbyn hyn pe baen ni wedi disgyn o’r gynghrair. Byddai hi wedi bod yn broses hir iawn. Roedd y gêm honno [yn erbyn Hull] yn anferth. Rwy’n dal i ddweud, faint bynnag o gemau ry’n ni’n chwarae ynddyn nhw, mai honno oedd y gêm bwysicaf yn hanes y clwb hyd yn hyn. Oherwydd y gêm honno a’r chwaraewyr a chwaraeodd y diwrnod hwnnw a phawb oedd yn gysylltiedig â’r clwb ac oherwydd y gwnaethon ni oroesi ar y diwrnod hwnnw, fe alluogodd hynny i ni wthio ymlaen a chymryd camau breision. Ry’n ni lle’r y’n ni heddiw oherwydd y gêm honno yn erbyn Hull.
Faint o ddylanwad fu’r cadeirydd, Huw Jenkins ar y clwb a’r llwyddiant a gafwyd yn y blynyddoedd diwethaf?
Rwy’n credu bod Huw Jenkins wedi chwarae rhan anferth yn nhermau ei ddewis o reolwyr. Mae pob un rheolwr wedi ychwanegu ychydig mwy at waith ei ragflaenydd. Maen nhw i gyd, yn eu tro, wedi gwneud jobyn anhygoel. Ry’n ni’n sôn am Brian Flynn, oedd yn rheolwr ar y diwrnod hwnnw pan wnaethon ni oroesi yn erbyn Hull. Wedyn, cawson ni Kenny Jackett a aeth â ni allan o’r Ail Adran ac roedd e yno pan symudon ni [o’r Vetch i’r Liberty]. Roedd yr amser yn berffaith i ni symud o’r Vetch yn y tymor olaf hwnnw cyn i ni gael dyrchafiad, a symudon ni i’r stadiwm newydd yn y Liberty wedi i ni gael y dyrchafiad. Symudodd Roberto Martinez y cyfan yn ei flaen ac fe gafodd e ddylanwad mawr ar yr arddull sydd wedi bod mor amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Symudodd Brendan Rodgers y cyfan ymlaen eto, ac fe aeth â ni i’r Uwch Gynghrair. Rwy’n credu, nawr bod Michael Laudrup wedi dod i mewn, rydyn ni wedi symud ymlaen unwaith eto. Rhaid i’r clod am ddewis y rheolwyr fynd i Huw Jenkins a’r bwrdd. Maen nhw wedi chwarae rhan anferth yn y daith i’r lle’r y’n ni heddiw.
Sut mae eich gwaith chi gyda’r clwb heddiw yn cymharu â’r dyddiau pan oeddech chi’n chwaraewr?
Rwy bob amser wedi dweud nad oes gwell na bod yn chwaraewr. Dyna’r cyfnod gorau i fi. Mae hyfforddi yn wych, â bod yn deg, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy wedi cael mwy o gyfrifoldebau. Ond dydy teitl fy swydd ddim wedi newid. Rwy wedi bod yn hyfforddwr ar y tîm cyntaf ers rhyw bedair blynedd. Ond mae’n swydd lawer fwy ymarferol gyda Michael Laudrup. Fe gymerais i gam yn ôl ychydig o flynyddoedd yn ôl ar ôl teithio tipyn, ac ro’n i wedi symud i weithio gyda’r chwaraewyr ifanc gan sicrhau eu bod nhw’n derbyn addysg bêl-droed. Ond mae camu yn ôl i’r tîm cyntaf gyda Michael – er i fi weithio ychydig gyda Brendan Rodgers – wedi bod yn brofiad gwych. Y ffaith ein bod ni wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Capital One yw’r eisin ar y gacen i fi.
Sonioch chi am y chwaraewyr ifanc. Pa mor bwysig fu Ben Davies i’r tîm y tymor hwn?
Mae Ben Davies wedi bod yn wych ers iddo fe ddod i mewn. Rwy’n credu ei bod hi’n llawer mwy anodd i chwaraewyr ifanc dorri drwodd erbyn hyn. Pan oedden ni yn y cynghreiriau is, yr Adran Gyntaf a’r Ail Adran, roedden ni’n dibynnu’n helaeth ar chwaraewyr ifanc i dorri drwodd i’r tîm cyntaf. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i glwb fel ni ein bod ni’n cynhyrchu chwaraewyr ifanc a’u bod nhw’n torri drwodd i’r tîm cyntaf. Ond mae’r ffaith ein bod ni yn yr Uwch Gynghrair erbyn hyn yn golygu ei bod hi’n llawer mwy anodd iddyn nhw. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe gawson ni sgwrs gyda Ben am y ffaith nad oedd e’n chwarae mewn digon o gemau. Doedd e ddim hyd yn oed yn chwarae i’r ail dîm. Ond eto i gyd, mae e wedi dod ymlaen yn aruthrol. Mae’r ffaith ei fod e bellach yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair ac wedi ennill cap i Gymru – sawl cap erbyn hyn – yn golygu ei fod e nawr yn mynd i chwarae yn ei rownd derfynol gyntaf. Mae’r peth yn anhygoel. Mae taith Ben yn crynhoi ein taith ni fel clwb yn y blynyddoedd diwethaf. Mae e wedi dwyn bri arno fe ei hunan. Rydych chi bob amser yn chwilio am arwyddion bach o flinder ond mae e’n mynd o nerth i nerth. Mae e hefyd yn adlewyrchu’n dda ar y bobol sydd wedi bod yn gweithio gyda fe er pan oedd e’n ifanc. Mae e wedi bod gyda’r clwb er pan oedd e’n ddeg neu unarddeg mlwydd oed.
Mae’r cefnogwyr yn ganolog i ethos Abertawe. Beth fyddai’n ei olygu i’r ddinas a’r bobol pe baech chi’n ennill ddydd Sul?
Byddai’n golygu popeth iddyn nhw. Mae’r gwpan wedi cydio yn nychymyg pawb. Dw i erioed wedi cwrdd â chymaint o bobol rygbi sydd wedi cael eu trosi – dyna i chi air da! Ond mae cymaint o bobol rygbi yn mynd i’r gêm ddydd Sul ac maen nhw’n dod i’r gemau bob penwythnos, ond eu cariad cyntaf yw rygbi. Ond rwy’n credu ein bod ni wedi cau’r bwlch mewn amryw ffyrdd. Mae’r cefnogwyr fel pe baen nhw’n symud rhwng y ddau dîm. Mae pawb, hyd yn oed y bobol sydd wedi methu â chael tocynnau ar gyfer y rownd derfynol neu ar gyfer gemau yn yr Uwch Gynghrair, wedi cael eu swyno gan yr hyn sy’n digwydd, ac maen nhw’n mwynhau’r achlysur yn fawr. Ry’n ni’n gobeithio y bydd yn ddiwrnod gwych. Ry’n ni’n sôn o hyd ac o hyd am y diwrnod ei hun, ond mae’n bwysig iawn ein bod ni’n mynd yno a pherfformio’n dda, a sicrhau ein bod ni’n dod adref gyda’r gwpan yn ein dwylo.