Ian Evans
Mae un o flaenwyr Cymru wedi dweud bod y bechgyn yn benderfynol o gadw eu dwylo ar dlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, a hynny er mae’r Saeson ydy’r ffefrynnau gyda’r bwcis i fynd â hi.

Dywedodd Ian Evans bod cyfle da gan y garfan i sicrhau buddugoliaethau oddi cartref yn Yr Eidal a’r Alban, fel bod y bencampwriaeth yn cael ei phenderfynu yn ystod y gêm olaf gartref yn erbyn y Saeson.

‘‘Mae’n rhaid cymryd pethau gam wrth gam.  Gall Yr Eidal fod yn dîm da pan fyddant yn llawn hyder.  Mae’r ugain munud gyntaf yn allweddol,’’ meddai Ian Evans.

Fe gollodd y Cymry yn Rhufain yn 2003 a 2007.

Osgoi ildio ceisiau

Byddant yn dechrau fel ffefrynau yfory gan fod yr Eidal heb eu capten dylanwadol Sergio Parisse. Prop Caerlŷr Martin Castrogiovanni fydd yn arwain y tîm.

Mae disgwyliadau hyfforddwr amddiffyn Cymru yn uchel.

‘‘Hoffwn os y gallem fod y tîm fydd yn ildio’r nifer isaf o geisiau yn y gystadleuaeth.  Os y gallwn wneud hynny, hwn fyddai’r trydydd tro i ni lwyddo mewn chwe blynedd,’’ meddai Shaun Edwards.

Bydd y gic gyntaf am 2.30 y p’nawn.