Mae rheolwr Abertawe’n dweud y byddai ennill Cwpan Capital One yn Wembley ddydd Sul yn “gamp enfawr” i Abertawe ac yn “ddiwrnod balch i Gymru gyfan”.

Wrth i’r Elyrch baratoi i wynebu Bradford yn Llundain dros y penwythnos, dywedodd Michael Laudrup ei fod yn sylweddoli pa mor bwysig fyddai buddugoliaeth i bobol Abertawe.

Ac mae wedi dweud wrth bobol Cymru am fwynhau’r llwyddiant tra’i fod e.

‘Enfawr’ – Laudrup

“Fel rheolwr, rwy wedi cyrraedd tair rownd derfynol – dwy gyda Brondby yn Nenmarc ac un gyda Getafe yn Sbaen. Fel rheolwr, byddai hon gydag Abertawe yn enfawr,” meddai Michael Laudrup.

“Mae’n rhaid bod y byd pêl-droed yng Nghymru yn falch iawn ar hyn o bryd. Mewn gwlad fach, rhaid i chi fwynhau’r adegau pan ry’ch chi ar y brig. Dyw hynny ddim yn barhaol.

“Fyddwn ni ddim bob amser ar y brig, felly rhaid mwynhau’r cyfan. I rai, gallai hwn fod y tro cyntaf a’r tro olaf iddyn nhw fynd i Wembley.

‘Effaith fawr’

Yr ornest yn Wembley ddydd Sul yw un o’r gemau mwyaf yn hanes Abertawe – mae’n dod ym mlwyddyn canmlwyddiant y clwb a ddeng mlynedd ar ôl i’r clwb fod o fewn 90 munud i orfod gadael cynghrair Lloegr.

Er bod Michael Laudrup wedi chwarae yn rowndiau terfynol rhai o’r cystadlaethau mwyaf yn Ewrop, fe ddywedodd ei fod yn sylweddoli pwysigrwydd y gêm yma i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr.

“Efallai nad yw hon y gêm fwyaf fel gêm – rwy wedi chwarae yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwr, cofiwch – ond rwy’n gwybod beth yw arwyddocâd y gêm i bobol y ddinas hon ac am y rheswm hwnnw, mae’n enfawr i fi hefyd. Mae wedi cael effaith fawr yma’n barod.”

Creu hanes

Dyma’r rownd derfynol fawr gynta’ erioed i’r Elyrch.

“Efallai nad yw ennill Cwpan y Gynghrair mor fawr ag ennill Cynghrair y Pencampwyr, ond fel rheolwr, mae’n fwy o gamp i’w hennill hi nag ydyw fel chwaraewr,” meddai Michael Laudrup.

“Mae’r gêm derfynol gyntaf bob amser yn arbennig. Mae’n wahanol i bob gêm arall, o’r eiliad ry’ch chi’n camu i’r cae. Bydda i’n falch iawn o gael arwain y tîm allan.”