Gethin Jenkins yng nghrys y Gleision
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod prop Cymru, Gethin Jenkins, yn ailymuno â’r rhanbarth.
Fe fydd yn ymuno gyda’r bachwr rhyngwladol, Matthew Rees, ar gyfer y tymor nesa’ – ar ôl dim ond tymor yn chwarae i Toulon yn Ffrainc.
Ac yntau’n dathlu deng mlynedd o gapiau rhyngwladol, fe fydd disgwyl i Jenkins wneud cyfraniad hefyd at ddatblygu chwaraewyr ifanc.
Roedd Gethin Jenkins wedi chwarae ym mhob un o gêmau Cymru wrth ennill dwy Gamp Lawb ac mewn dwy gystadleuaeth Cwpan Byd.
Dyw’r newyddion ddim yn annisgwyl ar ôl iddo fethu â chael lle cyson yn nhîm Toulon.
‘Gwirioneddol falch’ – Phil Davies
“Dw i’n wirioneddol falch i gael ailarwyddo Gethin,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Phil Davies.
“Dw i wedi clywed pa mor broffesiynol yw e a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag e. Bydd profiad Gethin yn ychwanegu at y tîm.”