Cwpan Capital One
Mae amddiffynnwr chwith Abertawe, Ben Davies wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn hyderus y gall Abertawe gipio’r fuddugoliaeth yn Wembley ddydd Sul.

Yn y gynhadledd i’r wasg yn Stadiwm Liberty heddiw, dywedodd Davies ei fod yn edrych ymlaen at y “cam mawr” o gerdded ar gae Wembley ar gyfer rownd derfynol Cwpan Capital One yn erbyn Bradford.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn gam mawr o le’r o’n i’n chwarae, ond mae’n rhywbeth nawr dwi’n cymryd fel gêm normal i fi.

“Mae’n deimlad grêt i fod lle’r ydyn ni nawr ac mae’n rhywbeth dwi’n edrych ymlaen ato fe lot.

“Mae’r teulu i gyd wedi cael tocynnau i fynd, a dwi’n siŵr y byddan nhw i gyd yn gyffrous os gallwn ni ennill y gêm.

“Ry’n ni’n gwybod beth mae Bradford yn gallu gwneud. Ry’n ni wedi gweld hynny yn erbyn Everton ac Aston Villa.

“Ry’n ni’n gwybod ei bod hi’n mynd i fod yn gêm galed iawn ond dwi’n siŵr os ydyn ni’n perfformio fel rydyn ni’n gwybod y gallwn ni, y byddwn ni’n ennill y gêm.”

‘Prowd iawn’

Ar ddechrau’r tymor hwn, roedd Davies ar gyrion y tîm ac yn eilydd i’r cefnwr chwith rhyngwladol, Neil Taylor.

Ond wedi i Taylor dorri ei goes a chael clywed na fyddai ar gael am weddill y tymor, daeth y cyfle i’r cefnwr chwith 19 oed  gamu i mewn i’r tîm cyntaf.

A doedd hi ddim yn hir iawn cyn i’r cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera dderbyn yr alwad gan Chris Coleman i gynrychioli ei wlad.

Cafodd ei gap cyntaf yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban ym mis Hydref y llynedd.

“Mae’n deimlad prowd iawn i gael cap cyntaf ac yn rhywbeth ro’n i wastad wedi eisiau gwneud. Ro’n i’n hapus iawn fod y cyfle wedi dod.”

Gyda hynny o brofiad y tu ôl iddo yn ei dymor cyntaf fel chwaraewr proffesiynol gyda’r clwb yr oedd yn ei gefnogi fel bachgen, mae gorwelion Davies bellach wedi troi tua Llundain.

‘Grêt i’r ddinas’

Ychwanegodd: “Os ydyn ni’n ennill y gêm, bydd hi’n grêt i ni fel tîm ac fel dinas.

“Bydd e’n grêt i weld pawb sy’n ein cefnogi ni yn y dorf ar y dydd. Mae’n rhywbeth dwi’n edrych ymlaen ato fe lot ac os ydyn ni’n ennill y Gwpan, bydd e’n deimlad lot gwell.

“Bydd e’n deimlad grêt i gerdded allan ar y cae a dwi’n siŵr os gallwn ni roi perfformiad da, gallwn ni ennill.”

Mae’r tîm Cymreig wedi gosod eu stamp ar yr Uwch Gynghrair yn eu hail dymor yn yr adran uchaf, ac maen nhw yn yr wythfed safle.

Ond gyda’r ffocws yn troi tua’r rownd derfynol ddydd Sul, fe fydd tîm yr Elyrch yn gobeithio codi’r Gwpan i goroni tymor eu canmlwyddiant.

Dywedodd Ben Davies: “Mae’r paratoadau wedi bod yn eitha’ tebyg ar gyfer y gêm yma, i fod yn onest.

“Does dim pwynt newid lot achos ry’n ni wedi bod yn gwneud yn dda iawn gyda’r paratoadau ry’n ni wedi gwneud ar gyfer yr Uwch Gynghrair.

“Ry’n ni wedi bod yn ymarfer fel arfer a dwi’n siŵr byddwn ni’n gallu gweld hynny gyda’r perfformiad.”

’11 yn erbyn 11’

Mae Abertawe, ers dyddiau Brendan Rodgers wrth y llyw, wedi dod yn adnabyddus am eu harddull gyfandirol ac mae Ben Davies yn cydnabod cyfraniad y rheolwr Sgandinafaidd i berfformiad yr Elyrch.

Dywedodd: “Mae Michael Laudrup yn hyfforddwr arbennig. Mae e wastad yn helpu ni gyda’r ffordd i chwarae ac mae’n dangos yn ein perfformiadau ni ar y penwythnosau ran fwyaf yr amser.

“Mae ganddo fe wybodaeth a dwi’n siŵr bydd hynny’n cael ei ddangos ar y cae ddydd Sul.”

“Ond mae’n 11 yn erbyn 11 ac os ydyn ni’n perfformio ar y dydd, does dim rheswm pam nad ydyn ni’n gallu dod nôl gyda’r Gwpan.”

“Bydd e’n deimlad grêt i bawb yn y tîm, y clwb a’r ddinas os enillwn ni. Bydd e’n grêt i bawb.”