Fydd amddiffynnwr canol Abertawe, Chico Flores ddim ar gael ar gyfer rownd derfynol Cwpan Capital One ddydd Sul.

Roedd y Sbaenwr wedi gobeithio dychwelyd ar gyfer yr ornest yn erbyn Bradford yn Wembley, ond cadarnhaodd rheolwr Abertawe, Michael Laudrup fod y chwaraewr wedi methu â gwella.

Dydy Chico ddim wedi chwarae ers iddo anafu ei ffêr yn yr ornest yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn QPR yn Stadiwm Liberty ar Chwefror 9.

Yn y gynhadledd i’r wasg y bore yma, dywedodd Michael Laudrup: “Fe wnaeth e drio mynd allan heddiw a gwneud rhywbeth ar y cae ymarfer, ond mae’n llawer rhy fuan.

“Roedden ni’n gwybod fod ganddo fe anaf sy’n cymryd rhwng 4 ac 8 wythnos i wella, a chafodd e’r anaf bythefnos yn ôl i ddydd Sadwrn yma.

“Mae’n gêm sydd mor bwysig iddo fe, felly mae e wedi bod yn gwneud popeth i wella, ond rwy’n credu ei fod e wedi sylweddoli heddiw ei bod hi’n llawer rhy fuan iddo fe.

“Ond dyna ni, rhaid i ni wynebu’r ffaith a symud ymlaen.”

Ychwanegodd Laudrup y gallai naill ai Garry Monk neu Kyle Bartley ddod i mewn i’r tîm yn ei le.