Nicky Robinson
Mae’r maswr rhyngwladol Nicky Robinson wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Bryste, gan ddechrau’r tymor nesaf.
Fe wnaeth Robinson ymuno gyda’r Wasps yn 2011 a’r ôl symud o Gaerloyw. Cyn belled mae Robinson wedi ennill 13 cap i Gymru.
‘‘Mae gan Fryste hanes enwog, ac mae’r clwb rygbi yn rhan fawr o’r ddinas. Byddaf yn falch i gynrychioli hwythau ac i gyfrannu i’r tîm,’’ meddai Nicky Robinson
‘‘Rwy’n edrych ymlaen at brofi fy un ac i ddatblygu fy ngêm gan helpu’r clwb i gyrraedd y lefel nesaf,’’ ychwanegodd.