Gareth Bale
Mae rheolwr Tottenham Hotspur, Andre Villas-Boas wedi gwrthod y syniad bod Tottenham yn dîm un dyn.

Gareth Bale sydd wedi bod ar flaen y gad wrth i Tottenham anelu am safle yng Nghynghrair y Pencampwyr.  Heb 17 gôl Bale y tymor hwn, byddai Tottenham yn y degfed safle yn yr Uwch Gynghrair.

Gydag adroddiadau yn dweud bod Real Madrid a Barcelona yn awyddus i gipio’r ymosodwr ifanc yn yr haf, mae llawer o gefnogwyr Tottenham yn pryderu y bydd Tottenham yn ei chael hi’n anodd ymdopi yn yr Uwch Gynghrair heb eu seren, pe bai yn gadael.

Ond mae Villas-Boas yn mynnu bod mwy i’w dîm na’r gwibiwr.

‘‘Mae hyn o hyd yn broblem gyda’r timau mawr.  Ydy Barcelona yn dibynnu a’r Lionel Messyi?  A Real Madrid a’r Cristiano Ronaldo?  Dwi ddim yn credu hynny,’’ meddai Villas-Boas.

‘‘Ond mae’r chwaraewyr yma yn gwneud gwahaniaeth.  Nhw yw’r sêr, ac mae Gareth wedi bod yn arbennig y tymor hwn,’’ ychwanegodd.