Robin McBryde - cydnabod sefyllfa'r Gweilch
Mae Robin McBryde, hyffroddwr blaenwyr tîm Cymru, wedi gosod her I weddill rhanbarthau Cymru i i ddilyn esiampl y Gweilch a datblygu blaenwyr ifanc ar gyfer y pump blaen.

Fel arall, meddai, roedd rhanbarth ardal Abertawe a Chastell Nedd yn diodde’ mwy’ na’r lleill oherwydd galwadau cenedlaethol.

Roedd y Gweilch wedi cwyno am nad oedd eu prop, Ryan Bevington, wedi cael ei ryddhau gan garfan Cymru er mwyn chwarae iddyn nhw yn erbyn Connacht.

Roedd dau brop arall sy’n chwarae yn Ffrainc – Paul James a Gethin Jenkins – yn gorfod cael eu rhyddhau am nad ydyn nhw dan adain Undeb Rygbi Cymru.

‘Cydymdeimlo’

Mae McBryde yn cyfaddef bod rhanbarth y Gweilch yn dioddef yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am eu bod yn medru cynhyrchu cynifer o chwaraewyr da yn y pum blaen.

‘‘Dw i’n cydymdeimlo efo sefyllfa’r Gweilch ac wedi siarad efo Andrew Millward a Mefin Davies gan ganmol y gwaith y maen nhw’n ei wneud i ddarparu chwaraewyr y pum blaen.

“Gan fod Gethin Jenkins a Paul James yn gorfod cael eu rhyddhau i chwarae dros eu clybiau, allen ni ddim rhyddhau Bevington hefyd,’’ meddai McBryde.