P
Bydd y Scarlets yn croesawu dau o’u chwaraewyr rhyngwladol yn ôl ar gyfer y gêm bwysig yn erbyn Munster ar Barc y Scarlets nos yfory.
Bydd yr asgellwr Liam Williams a’r blaen asgellwr Josh Turnbull yn ôl yn y tîm ar ôl bod gyda charfan Cymru.
Mae’r Scarlets wedi ennill eu dwy gêm gartref ddiwethaf ac mae’r Prif Hyfforddwr, Simon Easterby, yn cadw’r ffydd yn y mewnwr a’r maswr ifanc, Owen Williams ac Aled Davies sy’n dechrau’r gêm nos yfory.
‘‘D’yn ni ddim wedi gwneud llawer o newidiadau i’r tîm a chwaraeodd yn erbyn Connacht. Fe weithiodd y bechgyn yn galed a maen nhw’n haeddu eu cyfle ar gyfer y gêm hon,’’ meddai Easterby.
‘‘Ro’n I’n fodlon iawn gydag ymateb y bechgyn yn y gêm yn erbyn Connacht ac fe wnaethon ni reoli’r gêm yn yr ail hanner. Wrth fod yn llwyddiannus gyda dros 80% o’r ciciau yr oedd gennym blatfform i adeiladu arno.’’
Tîm y Scarlets
Olwyr – Gareth Owen, Liam Williams, Gareth Maule, Adam Warren, Andy Fenby.
Haneri – Owen Williams a Aled Davies.
Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Jacobie Adriaanse, George Earle, Johan Synman, Rob McCusker (Capten), Josh Turnbull a Kieran Murphy.
Eilyddion – Kirby Myhill, Rhodri Jones, Samson Lee, Jake Ball, Johnathan Edwards, Gareth Davies, Aled Thomas a Nick Reynolds.