Sam Warburton
Mae hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru, Rob Howley, wedi dweud nad yw hepgor y capten Sam Warburton yn debygol o amharu ar ei ymgais i gael ei enwi’n gapten ar y Llewod.
Doedd y blaenasgellwr ddim yn holliach ar gyfer y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn diwethaf, ar ôl dioddef anaf i’w ysgwydd yn erbyn Iwerddon.
Mae Howley wedi penderfynu cadw at yr un tîm ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn Yr Eidal.
Ychwanegodd: “Rwy’n sicr y bydd Sam yn gapten ardderchog yn ystod ei yrfa, ond am y gêm hon, fe benderfynon ni fynd am yr un pymtheg. Mae’r pwysau ar y tîm hwn ar gyfer gêm Yr Eidal union yr un fath ag yr oedd i fynd i Paris.”
Clod yw’r capten
Cafodd Ryan Jones ei enwi’n gapten yn lle Warburton yr wythnos ddiwetha’ ac mae e wedi derbyn cryn glod am ei arweinyddiaeth.
Daeth Justin Tipuric i mewn yn safle’r blaenasgellwr yn lle Warburton, ac fe gafodd yntau ei ganmol yn fawr am ei berfformiad hefyd.
Ond gallai Warburton gael ei enwi ymhlith yr eilyddion ar gyfer y daith i Rufain penwythnos nesaf.
Disgwyliadau mawr
Roedd disgwyl mawr cyn cystadleuaeth y Chwe Gwlad fod Warburton yn uchel ar restr yr ymgeiswyr ar gyfer capteniaeth y Llewod.
Fe fydd e’n brwydro yn erbyn nifer o ymgeiswyr cryf eraill am safle’r blaenasgellwr yn nhîm prawf y Llewod, gan gynnwys Chris Robshaw, Sean O’Brien a Tipuric.
Dywedodd Howley mai “mater i Warren Gatland” fydd dewis y capten ar gyfer y daith i Awstralia yn yr haf.
“Mae yna nifer o chwaraewyr nad ydyn nhw wedi bod yn chwarae rygbi ar y llwyfan rhyngwladol sydd wedi cael eu dewis i’r Llewod.
“Felly dydy hi ddim o reidrwydd yn golygu bod rhaid i chi fod yn chwarae rygbi ryngwladol i fynd ar daith y Llewod, a dydy hi ddim o reidrwydd yn golygu bod rhaid i chi fod yn gapten ar eich gwlad i fod yn gapten ar y Llewod.”