Casnewydd 2–0 Mansfield

Cododd Casnewydd i’r pedwerydd safle yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth dros Mansfield ar Rodney Parade nos Fawrth.

Roedd goliau ail hanner Andy Sandell a Christian Jolley yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Justin Edinburgh.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Sandell y tîm cartref ar y blaen o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail gyfnod yn dilyn trosedd Lee Beevers ar Jolley yn y cwrt cosbi.

Roedd hi’n ddwy ddeuddeg munud o’r diwedd a Jolley ei hun oedd y sgoriwr y tro hwn, yn curo Alan Marriott  i sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd dros Kidderminster i’r pedwerydd safle yn y tabl, bum pwynt y tu ôl i Grimsby a Wrecsam ar y brig ond wedi chwarae llai o gemau.

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, James, Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Flynn, Donnelly, Crow (Washington 88’), Jolley

Goliau: Sandell [c.o.s.] 66’, Jolley 78’

Cerdyn Melyn: Yakubu 32’

.

Mansfield

Tîm: Marriott, Dempster, Jones, Beevers, Jennings, Briscoe (Rhead 71’), Howell, Murray, Stevenson, Daniel, Green

.

Torf: 1,902