Henffordd 0–1 Wrecsam
Mae Wrecsam yn gyfartal ar bwyntiau gyda Grimsby ar frig y Gyngres yn dilyn buddugoliaeth dros Henffordd yn y gêm ddarbi nos Fawrth.
Roedd gôl hanner cyntaf Jay Harris yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Dreigiau ar Stryd Edgar, tri phwynt sydd yn ddigon i’w codi o fewn un gôl i frig Uwch Gynghrair y Blue Square.
Daeth unig gôl y gêm toc wedi’r hanner awr pan wyrodd cic rydd Jay Harris heibio Dan Hanford rhwng y pyst i Henffordd.
Chris Sharp a gafodd gyfle gorau’r tîm cartref ond methodd gyda pheniad rhydd. Yn y pan arall cafodd cynnig Glenn Little ei glirio oddi ar y llinell ond roedd un gôl yn ddigon i’r ymwelwyr.
Mae gan Wrecsam a Grimsby 58 pwynt yr un ar frig y tabl yn dilyn buddugoliaeth y Dreigiau ond mae gan y Saeson un gêm wrth gefn.
.
Henffordd
Tîm: Hanford, Gallinagh (Smikle 80’), Graham, Stam, Musa, Watkins, James, Clucas, O’Keefe, Sharp (Jackson 70’), Bowman
.
Wrecsam
Tîm: Maxwell, Wright, Ashton, Riley, Westwood, Harris, Keates, Clarke, Hunt (Little 76’), Wright, Ormerod (Ogleby 64’)
Gôl: Harris 32’
Cardiau Melyn: Ashton 39’, Westwood 40’
.
Torf: 1,781