Mae cyn-amddiffynwr Chelsea Frank Sinclair wedi ei benodi’n rheolwr ar glwb Bae Colwyn.
Treuliodd Frank Sinclair gyfnodau hir gyda Chelsea a Chaerlŷr, a rhwng 2009 a 2011 bu’n chwarae dros Wrecsam.
Ymunodd y chwaraewr 41 oed gyda Bae Colwyn y llynedd ac mae’r clwb, sy’n ddau o’r gwaelod yng nghynghrair Blue Square y gogledd, wedi ei benodi’n chwaraewr-reolwr ar ôl rhediad o ganlyniadau sâl.
“Mae’r mis diwethaf wedi bod yn anodd ers i Jon Newby adael,” meddai
“Mae ‘di bod yn gyfnod ansefydlog yn y stafell newid a mae hynna wedi bod yn amlwg yn y canlyniadau ar y cae.
“Y jobyn cyntaf yw adennill hyder y bois a dechrau ennill gemau eto,” meddai Sinclair, a gynrychiolodd Jamaica 28 o weithiau.
“Rwy wedi chwarae dan reolwyr craff iawn, megis Ruud Gullit a Gianluca Vialli yn Chelsea, Martin O’Neill yng Nghaerlŷr a Dean Saunders yn Wrecsam.
“Rwy wedi dysgu ambell i beth a fydd o help i fi.”