Forest Green 0–0 Wrecsam

Di sgôr oedd hi yn y frwydr tua brig Uwch Gynghrair y Blue Square ar y New Lawn brynhawn Sadwrn wrth i Wrecsam ymweld â Forest Green.

Dechreuodd Wrecsam y gêm yn ail yn y tabl, dri phwynt uwch ben Forest Green yn y pedwerydd safle ac mae’r Dreigiau yn dal eu tir diolch i’r gêm gyfartal oddi cartref er bod y ddau dîm yn colli tir ar Grimsby ar y brig.

Forest Green a Chris Styche gafodd gyfle gorau’r hanner cyntaf ond gwnaeth Chris Maxwell yn y gôl i’r Dreigiau yn dda iawn i’w atal.

Bu bron i Danny Wright gipio’r tri phwynt gyda pheniad yn yr ail hanner ond bu rhaid i’r ddau dîm setlo am bwynt yn y diwedd.

Mae’r pwynt hwnnw yn cadw Wrecsam yn ail ac yn codi Forest Green dros Gasnewydd i’r trydydd safle. Cafodd gêm Casnewydd yn erbyn Kidderminster ei gohirio oherwydd cyflwr y cae ar Rodney Parade.

.

Forest Green

Tîm: Russell, Hodgkiss, Stokes, Turley, Oshodi, Bangura, Klukowski, Forbes (Collins 89’), Styche (Viera 59’), Taylor, Norwood (Odubade 90’)

Cerdyn Melyn: Viera 84’

.

Wrecsam

Tîm: Maxwell, Ashton, Alfei (S. Wright 70’), Riley, Westwood, Harris, Keates, Clarke, Hunt (Cieslewicz 74’), Wright, Ormerod (Morrell 82’)

Cerdyn Melyn: Keates 73’

.

Torf: 1,840