Leeds 0–1 Caerdydd

Ennill wnaeth Caerdydd ar Elland Road brynhawn Sadwrn diolch i gôl gan yr ymosodwr newydd, Fraizer Campbell.

Mae rhediad gwych yr Adar Gleision yn y Bencampwriaeth yn parhau wedi i’r chwaraewr a ymunodd â’r clwb yr wythnos ddiwethaf sgorio gyda’i gyffyrddiad cyntaf ar ôl dod i’r cae fel eilydd.

Daeth cyfle gorau’r hanner cyntaf i chwaraewr canol cae Everton sydd ar fenthyg yn Leeds, Ross Barkley, ond gwnaeth gôl-geidwad Caerdydd, David Marshall, yn dda iawn i’w atal.

Bu rhaid i’r Albanwr rhwng y pyst fod yn effro i atal Tom Lees ddeuddeg munud o’r diwedd hefyd ond roedd ei dîm ar y blaen erbyn hynny diolch i Campell.

Gwyrodd y blaenwr newydd ergyd Craig Bellamy i gefn y rhwyd i sgorio unig gôl y gêm dri munud yn unig ar ôl dod i’r cae fel eilydd.

Mae’r fuddugoliaeth, pumed Caerdydd o’r bron oddi cartref yn y gynghrair, yn ddigon i adfer y bwlch o ddeg pwynt rhyngddynt hwy ar frig y Bencampwriaeth a Chaerlŷr yn yr ail safle.

.

Leeds

Tîm: Kenny, Peltier, Lee, Austin, Varney, White, Brown, Barkley, Byram, Diouf (Habibou 72’), McCormack

Cerdyn Melyn: Austin 14’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Taylor, Hudson, Turner, Connolly, Whittingham, Conway (Helguson 79’), Kim Bo-Kyung (Campbell 61’), Gunnarsson, Smith, Bellamy

Gôl: Campbell 64’

Cardiau Melyn: Marshall 23’, Bellamy 23’, Hudson 78’

.

Torf: 19,236