West Ham 1–0 Abertawe

Colli fu hanes Abertawe ym Mharc Upton brynhawn Sadwrn wrth i gôl Andy Carroll ennill y gêm i West Ham yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Daeth unig gôl y gêm chwarter awr o’r diwedd pan beniodd y blaenwr mawr heibio i Gerhard Tremmel rhwng y pyst i’r Elyrch.

Fe wnaeth gôl-geidwad yr ymwelwyr yn dda iawn i’w chadw hi’n ddi sgôr yn yr hanner cyntaf gan atal Kevin Nolan ar ddau achlysur.

Llwyddodd y gŵr o’r Almaen i atal ergyd dda Ricardo Vaz Te o bellter hefyd toc cyn yr egwyl.

West Ham oedd y tîm gorau wedi’r egwyl hefyd a gwnaeth Tremmel yn dda i atal Carroll pan ergydiodd y blaenwr am y gôl ugain munud o’r diwedd.

Ond doedd dim y gallai’r gôl-geidwad ei wneud saith munud yn ddiweddarach pan beniodd Carroll gic gornel gywir Mark Noble i gefn y rhwyd i sicrhau tri phwynt i’r tîm cartref.

Mae tîm Michael Laudrup yn aros yn wythfed yn y tabl er gwaethaf y canlyniad. Dim ond gobeithio y gwnânt yn well yn eu hymweliad nesaf â Llundain ddiwedd y mis.

.

West Ham

Tîm: Jaaskelainen, Reid, Tomkins, O’Brien, Nolan (Pogatez 90’), Jarvis (J. Cole 62’), Taylor, Noble, Diame (O’Neil 86’), Carroll, Vaz Te

Gôl: Carroll 77’

Cerdyn Melyn: Vaz Te 8’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton (Moore 57’), Michu, Pablo, Routledge (Dyer 75’), De Guzman, Ki Sung-Yeung

Cerdyn Melyn: Chico 90’

.

Torf: 34,692