Michu - ar ei ben ei hun
Mae yna bryder ymhlith cefnogwyr Abertawe ar ôl i’r clwb fethu â bachu ymosodwr newydd cyn i’r ffenest drosglwyddo gau.
Mae hynny’n golygu nad yw’r Elyrch wedi llwyddo i gael neb i gymryd lle Danny Graham ar ôl iddo adael am Sunderland.
Roedd Abertawe wedi holi am o leia’ dri chwaraewr newydd yn ystod y dydd ddoe ond mae’n ymddangos fod eu prisiau’n rhy uchel.
Yn ôl papur lleol yr Evening Post, bwriad y rheolwr Michael Laudrup yw dibynnu ar ei seren Sbaenaidd, Michu, i arwain y llinell flaen am weddill y tymor.
Mae rhai cefnogwyr wedi bod yn mynegi pryder ar wefannau cymdeithasol.
Y £5 miliwn am Graham yw’r ail ffi fwya’ erioed i’r Elyrch gan olygu eu bod wedi gwneud elw o £1.5 miliwn arno ond roedd y clwb wedi gwneud yn glir na fydden nhw’n talu crocbris am neb.