Mae ymosodwr Abertawe, Danny Graham wedi gadael y clwb heddiw, gan arwyddo cytundeb newydd hefo clwb pêl-droed Sunderland.
Chwaraeodd Graham 54 gêm dros yr Elyrch, ond nid yw wedi cael cyfle i chwarae yn gyson yn ddiweddar oherwydd seren newydd Abertawe, Michu.
Bydd Sunderland yn talu £5 miliwn am y chwaraewr, sydd eisoes wedi cyhoeddi ei deimladau i symud yn nes at ei gartref yng ngogledd ddwyrain Lloegr.
Roedd son bod Graham ar fin gadael Abertawe am sawl diwrnod, ac er i gefnogwyr Sunderland ei wawdio pan chwaraeodd y ddau dîm nos Fawrth, arwyddodd gytundeb gyda’r Black Cats heddiw a fydd yn para 3 blynedd a hanner.
“Pan glywais fod diddordeb gan Sunderland, nid oedd rhaid i fi feddwl am yr opsiynau eraill oedd ar gael,” meddai Graham, 27.
“Cefais fy magu yn y gogledd ddwyrain ac mae gen i brofiad o’r angerdd sydd gan bobol yr ardal yma tuag at bêl-droed – mae’n rhywbeth arbennig a does dim unman arall tebyg.”