Robert Howley
Bydd y cyn-sgaffaldwr Andrew Coombs yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru pan mae’n dechrau gydag Ian Evans yn yr ail reng yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.
Cyhoeddodd yr hyfforddwr Rob Howley ei dîm ar gyfer gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sy’n cynnwys Dan Biggar yn safle’r maswr, ac Aaron Shingler yn y rheng ôl.
Mae Coombs, 28, wedi symud o’r rheng ôl i safle’r clo gyda’r Dreigiau y tymor yma, a bydd yn llenwi safle ble mae Cymru’n brin oherwydd anafiadau i Alun Wyn Jones, Luke Charteris a Bradley Davies.
Dan Biggar yn faswr
Dan Biggar sy’n cael y crys 10 o flaen James Hook, yn dilyn perfformiadau da i’r Gweilch, ond does dim lle i’w gyd chwaraewr, Ryan Jones, sydd heb wella o anaf i’w law.
Mae Adam Jones yn dychwelyd i’r tîm ar ôl cyfnod allan, a Matthew Rees a Gethin Jenkins fydd gydag ef yn y rheng flaen. Toby Faletau fydd yr wythwr, tra bod Shingler a’r capten Sam Warburton yn flaenasgellwyr.
Mike Phillips fydd yn safle’r mewnwr, a phartneriaeth gyfarwydd Jamie Roberts a Jonathan Davies yng nghanol y cae.
Bydd y cewri, George North ac Alex Cuthbert yn dechrau ar yr esgyll, a gall Leigh Halfpenny gynnig opsiwn gicio o bell o safle’r cefnwr.
Cymru v Iwerddon, Stadiwm y Mileniwm. 2 Chwefror, 1.30yp
Blaenwyr: Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Andrew Coombs, Ian Evans, Aaron Shingler, Sam Warburton (c), Toby Faletau.
Cefnwyr: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Mike Phillips.
Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Craig Mitchell, Olly Kohn, Justin Tipuric, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams.