Craig Bellamy
Mae blaenwr Caerdydd Craig Bellamy yn ôl yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria wythnos nesaf.
Dydy Bellamy, 33, heb fod yng ngharfan Cymru ers Awst y llynedd oherwydd anafiadau, ond nawr mae ganddo gyfle i ychwanegu at ei 70 gêm ac 19 gôl dros ei wlad.
Mae’r rheolwr Chris Coleman hefyd yn croesawu Jack Collison yn ôl i’r garfan, wedi i anaf ei gadw allan o’r tîm.
Bydd amddiffynwr Abertawe, Ashley Williams yn parhau fel capten ar gyfer y gêm ar 6 Chwefror yn Stadiwm y Liberty, ac mae’n debyg bydd seren Cymru, Gareth Bale yn bartner i Bellamy fel ymosodwyr Cymru.
Mae llefydd hefyd i Aaron Ramsey a Joe Allen yn y garfan, ac amddifynnwr ifanc Abertawe, Ben Davies.
Cymru v Awstria, 6 Chwefror, Stadiwm y Liberty.
Lewis PRICE – Crystal Palace
Boaz MYHILL – West Bromwich Albion
Owain Fon WILLIAMS – Tranmere Rovers
Ashley WILLIAMS – Abertawe
Ashley RICHARDS – Abertawe
Sam RICKETTS – Bolton Wanderers
Chris GUNTER – Reading
Adam MATTHEWS – Celtic
Jack COLLISON – West Ham United
Andy KING – Caerlŷr
Ben DAVIES – Abertawe
Joe ALLEN – Lerpwl
Aaron RAMSEY – Arsenal
David VAUGHAN – Sunderland
Joe LEDLEY – Celtic
Gareth BALE – Tottenham Hotspur
Hal ROBSON-KANU – Reading
Sam VOKES – Burnley
Simon CHURCH – Reading
Craig BELLAMY – Caerdydd
Joel LYNCH – Huddersfield Town
Craig DAVIES – Bolton Wanderers