Mae Cymru wedi eu tynnu yn yr un grŵp a Lloegr ar gyfer cystadleuaeth dan-21 UEFA yn 2015.

Bydd y Ffindir, Lithuania, Moldova a San Marino hefyd yng ngrŵp 1 gyda thîm Geraint Williams.  Bydd y gêm gyntaf yn erbyn Moldova ar 22 Mawrth.

Dywedodd y rheolwr Geraint Williams iddo fod yn fodlon iawn hefo’r grŵp: “Roeddwn i’n jocian hefo rheolwr Lloegr, Stuart Pearce cyn y seremoni y byddan ni’n cael ein rhoi yn yr un grŵp, felly doeddwn ni ddim wedi synnu pan ddaethon nhw allan o’r het,” meddai Williams.

“Bydd y Ffindir yn wrthwynebwyr anodd hefyd, ond rydw i’n hapus ein bod ni wedi osgoi chwarae ym mis Mehefin a Thachwedd gan fod twrnamaint ieuenctid yn y misoedd yna.”

Gemau tîm dan-21 Cymru:

22 Mawrth, 2013 – Moldova

14 Awst, 2013 – Y Ffindir

6 Medi, 2013 – San Marino

10 Medi, 2013 – Moldova

11 Hydref, 2013 – Lithuania

15 Hydref, 2013 – San Marino

5 Mawrth, 2014 – Lloegr