Craig Bellamy
Fe all Craig Bellamy fod nôl yng ngharfan Cymru ar gyfer ei gêm nesaf.  Mae Bellamy wedi bod yn chwarae’n dda dros yr Adar Gleision yn ddiweddar.

Mi fydd Cymru yn chwarae yn erbyn Awstria ar 6 Ionawr mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm y Liberty.

Bydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn enwi ei garfan yfory, ac mae’n debygol y bydd yr ymosodwr yn un o’r garfan.

Mae Coleman wedi dweud bod cyfle i Bellamy o hyd, ond nid yw am erfyn ar unrhyw un o’r chwaraewyr i gynrychioli Cymru.