Huw Jenkins
Yn ol adroddiadau, mae Danny Graham wedi gwneud cais i adael Abertawe oherwydd rhesymau personol.

Ond mae Cadeirydd Abertawe Huw Jenkins wedi wfftio awgrymiadau bod Graham am adael y clwb, gan ddweud nad oes sail i’r honiadau.

Mae Graham wedi cael ei gysylltu gyda Sunderland a Norwich City.

Er hynny mae disgwyl y bydd Graham yn y garfan heno wrth i’r clwb deithio i chwarae yn erbyn Sunderland.

Wedi ennill chwe gêm oddi cartref y tymor yma, mae Michael Laudrup wedi dweud bod y garfan yn hyderus iawn wrth iddyn nhw baratoi i herio Sunderland heno yn y Stadium of Light.