Wedi iddo sgorio dwy gôl i helpu Abertawe gael triphwynt yn erbyn Stoke dydd Sadwrn mae Jonathan De Guzman wedi dweud ei fod am aros yn y Liberty.

Mae De Guzman, 25, ar gyfnod benthyg o dîm Villareal yn Sbaen, a bydd ei gytundeb yn yr Uwch Gynghrair yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.  Ond dywedodd ddoe ei fod yn awyddus i wneud y symudiad yn un parhaol.

“Os oes cyfle, buaswn yn awyddus iawn i aros,” meddai’r chwaraewr o’r Iseldiroedd.

“Rydw i’n hapus iawn yma. Mae’n grŵp grêt o bobol, nid yn unig y chwaraewyr, ond pawb o amgylch y clwb, y staff a’r cefnogwyr.”

“Mae’n glwb teuluol, ac rydw i’n hoff iawn o hynny.  Mae rhywbeth da yn digwydd yma ac rydw i’n falch iawn i fod yn rhan ohono,” meddai De Guzman.

Chelsea nos Fercher

Ers ymuno â’r Elyrch ar ddechrau’r tymor mae’r canolwr wedi gwneud argraff fawr, gan sgorio pum gôl, gan gynnwys dwy yn y fuddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Stoke dydd Sadwrn.

A bydd De Guzman yn gobeithio gwneud argraff ar y Liberty nos Fercher wrth i Abertawe wynebu Chelsea mewn gêm hollbwysig yn ail gymal rownd gyn-derfynol Cwpan Capital One.

“Rydym ni yn parchu Chelsea wrth gwrs, ond does dim ofn,” meddai.

“Rydym ni’n arwain o 2-0 ac yn chwarae gartref, lle mae’n debyg rydyn ni’n chwarae ein pêl-droed gorau, felly rhaid cadw’r momentwm. Mae ganddon ni gyfle da iawn.”