Roedd rownd olaf o 68 yn ddigon i’r Cymro, Jamie Donaldson hawlio buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Golff Abu Dhabi dydd Sul, gan orffen 14 ergyd o dan y safon.
Llwyddodd Donaldson, o Bontypridd, i gael 5 byrdi dros y rownd, cyn i gamgymeriad ar y twll olaf fygwth ei le ar y brig. Gallai’r Sais Justin Rose neu Thorbjen Olesen o Ddenmarc fod wedi cipio’r teitl, ond methodd y ddau eu hergydion olaf i sicrhau buddugoliaeth i Donaldson.
Wedi ei fuddugoliaeth gyntaf ym Mhencampwriaeth Agored Iwerddon y llynedd, dyma’r ail waith i Donaldson ennill cystadleuaeth fawr yn ei yrfa, a bydd yn derbyn siec o $336,726 am y gamp.
Mae’r ddwy fuddugoliaeth yn ddigon i sicrhau lle i Donaldson yn nhwrnamaint fwyaf golf, Y Masters. Bydd yn wynebu chwaraewyr gorau’r byd yn y gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal yn Augusta, UDA ym mis Ebrill.