Treviso 17–14 Gweilch
Gorffennodd tymor y Gweilch yng Nghwpan Heineken gyda chanlyniad siomedig yn y Stadio Comunale di Monigo brynhawn Sul. Sgoriodd Treviso ddau gais hwyr i drechu’r tîm o Gymru yng ngêm olaf grŵp 2.
Roedd hi’n ymddangos fod cais Tom Isaacs toc cyn yr awr yn mynd i fod yn ddigon i’r Gweilch ond tarodd Treviso yn ôl gyda dau gais yn y pum munud olaf.
Roedd gan y Gweilch fantais fain ar yr egwyl diolch i ddwy gic gosb Dan Biggar yn erbyn un Kristopher Burton. Ac ymestynnodd maswr yr ymwelwyr y fantais honno i chwe phwynt yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda gôl adlam.
Roedd y fuddugoliaeth yn edrych yn ddiogel i’r Cymry pan groesodd y canolwr, Isaacs, i roi un ar ddeg pwynt rhwng y ddau dîm gyda dim ond chwarter y gêm i fynd ond roedd gan Treviso syniadau gwahanol.
Tiriodd y blaenasgellwr rhyngwladol profiadol, Alessandro Zanni, gyda phum munud i fynd cyn i’r eilydd asgellwr, Andrea Pratichetti, ennill y gêm i’r Eidalwyr gyda chais yn y munud olaf.
Mae’r Gweilch yn gorffen grŵp 2 uwch ben Treviso yn y trydydd safle er gwaethaf y canlyniad. Ond ychydig o gysur fydd hynny wrth i dymor trychinebus i ranbarthau Cymru yn Ewrop ddod i ben yng nghanol mis Ionawr.
.
Treviso
Ceisiau: Alessandro Zanni 74’, Andrea Pratichetti 79’
Trosiadau: Kristopher Burton 75’, 80’
Cic Gosb: Kristopher Burton 4’
.
Gweilch
Cais: Tom Isaacs 58’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 8’, 14’
Gôl Adlam: 47’