Scarlets 0-29 Clermont
Daeth tymor siomedig y Scarlets yng Nghwpan Heineken eleni i ben gyda cholled arall yng ngrŵp 5 nos Sadwrn. Clermont oedd yr ymwelwyr i Barc y Scarlets ac enillodd y Ffrancwyr yn gyfforddus gan sgorio pedwar cais.
Sgoriodd Nalpolini Nalaga, Morgan Parra a Benson Stanley i gyd geisiau yn yr hanner cyntaf cyn i Aurelian Rougeries goroni’r perfformiad gyda phedwerydd yn yr ail gyfnod.
Roedd amddiffyn y Scarlets yn warthus pan groesodd Nalaga ar gyfer y cais cyntaf ar yr asgell chwith a bai y Scarlets oedd yr ail hefyd. Pasiodd Rob McCusker yn syth i Parra a chroesodd y mewnwr o dan y pyst.
Trosodd Parra ei ymdrech ei hun i ychwanegu at ei drosiad cynharach a chic gosb rhwng.
Roedd Clermont yn llwyr reoli a dim ond mater o amser oedd hi tan i’r trydydd cais ddod. Daeth hwnnw yn y diwedd dri munud cyn yr egwyl wrth i’r canolwr, Stanley, hollti trwy’r amddiffyn yn dilyn cyfnod hir o bwyso.
Tynnodd y Ffrancwyr y droed oddi ar y sbardun yn yr ail hanner ond gwnaethant ddigon i sicrhau pwynt bonws pan diriodd Rougeries yn dilyn hanner bylchiad cyn ffefryn Parc y Scarlets, Regan King.
Fe ddeffrodd y Scarlets yn y deg munud olaf ond doedd dim sgôr i fod i’r tîm cartref wrth i’r ymwelwyr ennill yn gyfforddus ac yn haeddianol.
Clermont
Ceisiau: Nalpolini Nalaga 6’, Morgan Parra 17’, Benson Stanley 37’, Aurelian Rougeries 65’
Trosiadau: Morgan Parra 7’, 18’, David Skrela 38’
Cic Gosb: Morgan Parra 10’