Blackpool 1–2 Caerdydd

Mae gan Gaerdydd ddeg pwynt o fantais ar frig y Bencampwriaeth bellach ar ôl curo Blackpool yn Bloomfield Road nos Sadwrn.

Daeth y goliau i gyd mewn cyfnod o ddeg munud ar ddechrau’r ail hanner. Unionodd Gary Taylor-Fletcher i Blackpool wedi i Kim Bo-Kyung roi Caerdydd ar y blaen ond adferodd Tommy Smith y fantais yn fuan wedyn i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr.

Bu rhaid aros tan gic olaf hanner cyntaf digon diflas am gyfle gorau’r cyfnod cyntaf ond llwyddodd gôl-geidwad Blackpool, Matt Gilks, i arbed ergyd Smith.

Roedd pethau yn dipyn gwell yn yr ail hanner ac roedd Caerdydd ar y blaen wedi llai na deg munud. Daeth Aaron Gunnarsson o hyd i Kim Bo-Kyung yn y cwrt cosbi a llwyddodd yntau i guro Gilks.

Ychydig dros bum munud yn unig a barodd y fantais cyn i Blackpool unioni, croesiad Tiago Gomes a pheniad Gary Taylor-Fletcher.

Ond roedd mwy o gyffro i ddod gyda thrydedd gôl mewn deg munud pan rwydodd Smith gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi i adfer mantais yr Adar Gleision.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r meddiant wedi hynny ond nid oeddynt yn wirioneddol edrych yn debygol iawn o sgorio. Tom Ince a ddaeth agosaf iddynt gyda dwy ergyd o bellter ond llwyddodd David Marshall i arbed y ddwy yn gyfforddus.

Mae’r fuddugoliaeth yn ymestyn mantais Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth i ddeg pwynt gan mai dim ond gêm gyfartal a gafodd Hull yn Peterborough. Caerlŷr sydd bellach yn ail diolch i’w buddugoliaeth yn erbyn Middlesbrough nos Wener.

.

Blackpool

Tîm: Gilks, Basham, Cathcart, Harris, Broadfoot, Gomes (M Phillips 61’), Sylvestre, Osbourne (Angel 76’), Ince, Taylor-Fletcher, Delfouneso

Gôl: Taylor-Flechter 60’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson (Nugent 48’), Connolly, Whittingham, Conway, Kim Bo-Kyung (Cowie 76’), Gunnarsson, Smith (Helguson 65’), Mason

Goliau: Kim Bo-Kyung 54’, Smith 64’

Cardiau Melyn: Gunnarsson 52’, Wittingham 89’, Helguson 90’

.

Torf: 13,988