Gleision 26–14 Sale
Bu rhaid aros tan eu gêm olaf yn grŵp 6 ond fe lwyddodd y Gleision i ennill eu gêm gyntaf yng Nghwpan Heineken y tymor hwn brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth dros Sale ar Barc yr Arfau.
Er i’r Saeson fod ar y blaen am rannau helaeth o’r gêm roedd ceisiau ail hanner Lloyd Williams a Michael Paterson ynghyd â chicio Leigh Halfpenny’n ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r rhanbarth o Gymru yn y diwedd.
Sale a ddechreuodd orau gyda’r pac yn gwthio drosodd wedi dim ond tri munud a’r bachwr, Tommy Taylor, yn tirio. Saith i ddim yn dilyn trosiad Rob Miller.
Ond brwydrodd y Gleision yn ôl yn raddol a llwyddodd Halfpenny gyda thair allan o bedair cic gosb i roi’r tîm cartref ar y blaen erbyn yr egwyl.
Dechreuodd yr ail hanner yn debyg iawn i’r cyntaf – gyda chais i aelod o reng flaen Sale. Y prop, Aston Corall, oedd y sgoriwr y tro hwn ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen o bum pwynt yn dilyn trosiad Miller.
Wnaeth hynny ddim para yn hir wrth i Lloyd Williams sgorio cais cyntaf y Cymry i unioni’r sgôr dri munud yn unig yn ddiweddarach, cyn i drosiad Halfpenny roi’r Gleision ar y blaen.
Methodd Halfpenny a Miller gynnig yr un at y pyst wedi hynny a bu rhaid aros tan saith munud o’r diwedd am y pwyntiau nesaf. Dyna pryd sgoriodd yr eilydd, Paterson, gais i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Ychwanegodd Halfpenny y trosiad cyn gorffen y gêm gyda chic gosb arall i roi gwedd ychydig fwy cyfforddus i’r sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision dros Sale i’r trydydd safle yng ngrŵp 6 ond tymor siomedig oedd hi i’r tîm o Gaerdydd yn Ewrop ar y cyfan.
..
Gleision
Ceisiau: Lloyd Williams 44’, Michael Paterson 73’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 44’, 74’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 10’, 25’, 33’, 80’
.
Sale
Ceisiau: Tommy Taylor 3’, Aston Corall 41’
Trosiadau: Rob Miller 4’, 42’