Casnewydd 0–2 Barrow

Collodd Casnewydd gyfle i godi i frig Uwch Gynghrair y Blue Square trwy golli yn erbyn Barrow ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Gan i gêm Wrecsam gael ei gohirio, byddai buddugoliaeth dros y tîm a oedd ar y gwaelod wedi bod yn ddigon i godi tîm Justin Edinburgh i’r brig ond siom a gafwyd wrth i goliau Matthew Flynn a Danny L Rowe sicrhau buddugoliaeth i’r ymwelwyr.

Wnaeth prynhawn Casnewydd ddim dechrau’n dda iawn pan gafodd eu prif sgoriwr, Aaron O’Connor, ei gario oddi ar y cae gydag anaf drwg ddeg munud cyn yr egwyl.

Ac aeth pethau o ddrwg i waeth bum munud yn ddiweddarach pan fethodd yr amddiffyn a chlirio’r bêl o gic gornel gan alluogi Flynn i rwydo wrth y postyn pellaf.

Gorfodwyd Casnewydd i bwyso wedi’r egwyl felly a llwyddodd Barrow i ychwanegu un arall gyda gwrthymosodiad chwim. Daeth y bêl i Rowe ar ochr y cwrt cosbi yn y diwedd ac anelodd yntau hi’n gywir i’r gornel uchaf i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Cyfle wedi ei golli i Gasnewydd yn sicr ond mae’r tîm o dde Cymru yn aros yn ail yn y tabl gan i gêm Grimsby gael ei gohirio nos Wener hefyd.

.

Casnewydd

Tîm: Julian, Pipe (Swallow 72’), Hughes, James, Sandell, Minshull (Washington 69’), Evans, Flynn, O’Connor (Crow 37’), Jolley, Willmott

Cardiau Melyn: Pipe 30’, Evans 68’

.

Barrow

Tîm: Hurst, Flynn, Skelton, Hessey, Pearson, Owen, Rutherford, Baker, McConville, Boyes, Rowe

Goliau: Flynn 41’, Rowe 62’

Cardiau Melyn: Skelton 6’, McConville 43’, Husrt 45’, Baker 90’

.

Torf: 2,107