Abertawe 3–1 Stoke
Sgoriodd Abertawe deirgwaith yn yr ail hanner wrth guro Stoke ar y Liberty brynhawn Sadwrn yn yr Uwch Gynghrair.
Sgoriodd Ben Davies yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i Jonathan De Guzman sicrhau’r fuddugoliaeth gyda dwy gôl arall i’r Elyrch.
Ychydig o gyfleoedd a gafodd y ddau dîm mewn hanner cyntaf cymharol ddiflas. Gallai Miguel Michu fod wedi rhoi’r Elyrch ar y blaen wedi dim ond tri munud serch hynny yn dilyn gwaith da gan Itay Shechter ond anelodd y prif sgoriwr dros y trawst.
Cafodd y Sbaenwr gyfle da â’i ben yn hwyrach yn yr hanner hefyd diolch i waith creu ei gyd wladwr, Angel Rangel, ond anelodd heibio’r postyn.
Dechreuodd yr ail hanner yn dipyn gwell gyda gôl o safon gan y cefnwr ifanc, Davies, wedi dim ond pedwar munud. Derbyniodd y bêl gan Ki Sung-Yeung, cafodd y gorau o Jonathan Walters a Ryan Shawcross cyn curo Asmir Bogovic gydag ergyd dda ar draws y gôl. Gôl broffesiynol gyntaf i Davies a gôl i’w chofio hefyd.
Dyblwyd y fantais toc cyn yr awr ac roedd hon yn gôl ragorol hefyd. Cafodd Michu ei lorio gan Charlie Adam bum llath ar hugain allan o’r gôl a sgoriodd De Guzman gyda chwip o gic rydd.
Cafodd Cameron Jerome gyfle gwych i dynnu un yn ôl i Stoke hanner ffordd trwy’r hanner ond llwyddodd cyn chwaraewr Caerdydd i anelu dros y trawst o dair llath.
Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel i Abertawe ddeg munud o’r diwedd pan sgoriodd De Guzman eto. Cafodd ei ryddhau gan gyffyrddiad gwych Danny Graham cyn curo Begovic i sicrhau’r tri phwynt.
Roedd digon o amser ar ôl i Michael Owen ddod oddi ar y fainc i sgorio gôl gysur i dîm Tony Pulis ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i Abertawe ennill yn haeddianol.
Mae’r canlyniad yn codi’r Elyrch i’r wythfed safle, bedwar pwynt yn unig y tu ôl i’r safleoedd Ewropeaidd.
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Williams, Monk, Rangel, Davies, Michu (Britton 77’), Pablo (Lamah 63)’, Routledge, De Guzman, Ki Sung-Yeung, Shechter (Graham 73’)
Goliau: Davies 47’, De Guzman 57’, 80’
.
Stoke
Tîm: Begovic, Cameron, Huth, Shawcross, Whelan, Nzonzi, Adam (Jerome 63’), Whitehead, Etherington (Owen 85’), Walters, Crouch (Crouch 63’)
Gôl: Owen 90’
.
Torf: 19,603