Mae cyn-chwaraewr clwb pêl-droed Abertawe, Geoff Thomas wedi marw yn dilyn cyfnod hir o salwch. Roedd yn 64 oed.
Chwaraeodd y canolwr 357 o gemau i’r Elyrch, gan sgorio 52 o goliau rhwng 1965 a 1976. Dechreuodd ei yrfa fel capten tîm bechgyn Abertawe, cyn dod yn aelod pwysig o dîm Roy Bentley yn nhymor 1969/1970, pan enillodd yr Elyrch ddyrchafiad i’r drydydd gynghrair.
Chwaraeodd dros dimau ieuenctid a dan-23 Cymru, a chafodd gyfle i chwarae i Manchester United mewn cyfnod o fenthyciad o Abertawe.
Wedi iddo ymddeol fe ddaeth yn aelod brwd o glwb criced Y Mwmbwls.
Dywedodd cadeirydd clwb pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins: “Mae hi’n drist colli aelod o deulu Abertawe, yn enwedig pan roddodd gymaint i’r clwb fel chwaraewr.
“Roedd Geoff yn aelod adnabyddus o’r gymuned wedi iddo barhau i chwarae yng Nghynghrair lleol Abertawe yn dilyn ei ymddeoliad o’r Elyrch. Rydym ni’n cydymdeimlo gyda’i deulu a’i ffrindiau yn yr amser trist yma.”