Mae blaenwr Caerdydd Craig Bellamy wedi dweud ei fod yn “hapusach nag erioed” yn chwarae i Gaerdydd ar hyn o bryd, a’i brif nod yw ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.
Yn siarad cyn i Gaerdydd groesawu Ipswich yfory, dywedodd cyn-gapten Cymru bod sgwad Caerdydd dan reolwr Malky Mackay, yn ddigon da i ennill y Bencampwriaeth.
“Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael dod i’r clwb yma bob dydd, ac mae gweithio gyda’r criw yma o chwaraewyr yn grêt. Mae’r garfan yn arbennig, mae pawb yn gweithio mor galed,” meddai Bellamy.
Ond er i Bellamy edrych ymlaen i’r dyfodol hefo Caerdydd, roedd yn ansicr am ail-gydio yn ei grys Cymru a chwarae i dîm Chris Coleman unwaith eto.
“Os oes gen i rywbeth i gynnig i’r tîm, mi wnai ei ystyried o ddifrif,” meddai. “Ond mae hynny rhai wythnosau yn y dyfodol, ac rydw i’n canolbwyntio ar un wythnos ar y tro.”
Ennillodd Bellamy 70 o gapiau i Gymru cyn i anaf ei gadw allan o’r tîm. Heddiw, dywedodd ei fod yn canolbwyntio ar gemau Caerdydd ar hyn o bryd, ac bod dim gwarant y bydd yn chwarae wythnos nesaf hyd yn oed.
“Does dim pwynt edrych yn bellach na hynny. Ipswich yw’r prif darged ac bydd rhaid i ni wthio ymlaen o hynny.”