Laudrup
Mi fydd y pwysau i gyd ar Arsenal yn erbyn Abertawe ddydd Sul, a hynny am nad ydy’r cewri o Lundain wedi ennill unrhyw dlws ers 2005, yn ôl hyfforddwr y Swans.

Meddai Michael Laudrup: “Rwy’n credu bod y pwysau arnyn nhw. Iddyn nhw, pan rydych chi’n un o’r timau gorau mae dyletswydd arnoch i o leia’ fod yn cystadlu hyd y diwedd er mwyn ennill pethau.

“Dim ond un sy’n gallu ennill ym mhob cystadleuaeth, a dau dîm yn y ffeinal, ac mae disgwyl i Arsenal o leia’ fod yn y rownd gyn-derfynol. Ac mae’n amlwg bod mwy o bwysau ar Arsenal nag Abertawe yn y rownd yma.”

Mae tîm Laudrup eisoes wedi ennill 2-0 oddi cartref yn yr Emirates yn gynharach yn y tymor, ac fe drechon nhw’r Gunners 3-2 gartref y llynedd.

Ond fydd y buddugoliaethau hynny yn cyfrif iot ddydd Sul, yn ôl Laudrup.

“Nid yw’r gemau hynny yn golygu unrhyw beth, mae hon yn gêm newydd a byddwn yn wynebu tîm gwahanol.

“Bydd yr un chwaraewyr ar y cae ond maen nhw wedi newid gyda Theo Walcott yn chwarae’n safle’r ymosodwr, ac mae Bacary Sagna yn ôl yn safle’r cefnwr de, ac rydw i’n disgwyl y byddwn ni’n wynebu eu tîm cryfaf.”