Andy Morrell
Mae rheolwr Wrecsam Andy Morrell yn disgwyl tipyn o gêm oddi cartref yng Nghasnewydd heno.

Fe gollodd Newport County 5-0 adref yn erbyn Forest Green Rovers ddydd Mawrth, ac yn ôl Morrell fe fyddan nhw megis “anifail wedi’i glwyfo” heno.

Gyda Wrecsam yn ail yn y gynghrair a Newport County bwynt a safle’n is, ond gyda gêm ychwanegol i’w chwarae, mae’n addo bod yn ornest agos.

“Maen nhw’n siwr o fod fel anifail wedi’i glwyfo ac yn benderfynol o fynd nôl i’w patrwm arferol o guro gemau a phrofi eu bod nhw’n dîm da,” meddai Morrell.

Ym mis Medi fe roddodd Wrecsam stop ar rediad Newport County o fod heb golli’n y gynghrair, pan guron nhw 2-0 ar y Cae Ras.