Mae’r tymor pêl-droed yn dechrau o ddifri’ y penwythnos yma, ond yn barod mae clybiau Cymru allan o gystadleuaethau Ewrop. Beth sydd o’i le ar bêl-droed Cymru, felly, a beth sy’ angen ei wneud i wella’r sefyllfa? Dyma farn ein gohebydd chwaraeon, Euros Lloyd…

Partizan Belgrade 12 – 0 Rhyl, Llanelli 1 – 3 Motherwell, Bangor 0 – 3 FC Honka a FRAM Reykjavik 4 – 2 Y Seintiau Newydd. Ydi, mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru allan o gystadlaethau Ewrop am dymor arall a hynny hyd yn oed cyn i’r tymor ddechrau yn iawn.

Pedwar clwb. Wyth gêm. Saith colled. Un fuddugoliaeth dda, ond hynod o lwcus.

Yn amlwg, mae’n rhaid i ni dderbyn nad yw’n deg i ni ddisgwyl i’r Rhyl, Y Seintiau Newydd, Llanelli a Bangor i allu cystadlu gyda chlybiau fel FC Honko heb son am gewri pêl-droed Ewrop.

Fel Cymro a chefnogwr brwd o bêl-droed Cymru rwyf bob blwyddyn yn gobeithio gweld clybiau Cymru yn cael ymgyrchoedd parchus yn Ewrop ac ambell i fuddugoliaeth fel bod y diddordeb yn gallu parhau i ganol Awst o leiaf, a gobeithio ychydig y tu hwnt i hynny. Rwyf hefyd yn disgwyl gweld gwelliant o’r tymor blaenorol ond yn anffodus nid yw hynny’n digwydd. Os rhywbeth, mae pethau’n gwaethygu o dymor i dymor.

Dim arian

Ar hyn o bryd, Y Rhyl a’r Seintiau Newydd yw’r unig glybiau proffesiynol yn y gynghrair gan fod Llanelli wedi gorfod gwneud y penderfyniad i fynd yn ôl yn glwb rhan-amser a hynny oherwydd y sefyllfa ariannol. Ac mae’r hen ddihareb yna yn berffaith wir, wel, yn enwedig yn y byd pêl-droed – “Diwedd y gân yw’r geiniog!”

Y gwir plaen amdani yw nad oes digon o arian gan y clybiau i ddenu chwaraewyr o safon. Yn anffodus, heb arian amhosib yw temtio’r math o chwaraewyr, sydd eu hangen ar unrhyw glwb i fod yn gystadleuol, i ddod i chwarae ar gaeau fel Parc Waun Dew a Ffordd Farrar. Wrth wylio’r gemau Ewropeaidd a gafodd eu darlledu ar S4C yn ddiweddar, y chwaraewyr gorau i’r clybiau o Gymru oedd Andy Legg i Lanelli a Gareth Owen i’r Rhyl. Mae’r ddau yma naill ai yn eu pedwardegau neu bron â bod!

Mae angen buddsoddi tuag at y dyfodol, felly, ac ar hyn o bryd, dyw hynny ddim yn digwydd. O ganlyniad, dyw’r sefyllfa yn gwella dim.

Dim apêl

Byddai nifer yn mynnu bod ymgyrch Ewropeaidd i glybiau Uwch Gynghrair Cymru o fudd i’r clybiau. Mae rhai yn credu bod y gemau hyn yn denu mwy o gefnogwyr a mwy o arian i’r clwb.

Wel, gadewch i ni gael edrych ar ymgyrch Bangor y tymor hwn fel enghraifft. Roedd enillwyr Cwpan Cymru yn wynebu FC Honka – Pwy? Ie yn union. Dim llawer o apêl i’r cefnogwyr.

Roedd rhaid i Fangor drefnu a thalu am drip i’r garfan a’r staff i fynd allan i’r Ffindir i chwarae’r cymal cyntaf. Hefyd, bu’n rhaid iddynt chwarae’r ail gymal yn Wrecsam! Yn sicr, byddem yn dychmygu y byddai hyn siŵr o effeithio ar benderfyniad rhai o’r cefnogwyr i fynychu.

Felly, a oedd yr arian a dderbyniodd Bangor am golli’r rownd ragbrofol ynghyd ag arian tocynnau’r cymal cartref yn fwy na’r gost o drefnu’r trip i’r Ffindir? Dwi’n amau’n gryf.

Mae aelod blaenllaw o un o glybiau Uwch Gynghrair Cymru, oedd heb ennill eu lle yng nghystadlaethau Ewrop y tymor hwn, wedi dweud wrtha i yn gyfrinachol fod y clwb yn falch nad oedden nhw’n gorfod chwarae yn Ewrop y tymor hwn oherwydd y gost ychwanegol ar y clwb.

Yn amlwg, ni fyddai’r un clwb yn fodlon cyfaddef yn gyhoeddus nad ydynt am chwarae yn Ewrop, a thybed pa glybiau eraill yng Nghymru sy’n cytuno â barn y swyddog anhybsys?

Cryfhau Cwpan Cymru

Mae angen cynrychiolaeth gystadleuol ar Gymru yn Ewrop.

Yr unig ffordd y gallwn ni sicrhau hynny yw trwy gael prif glybiau’r wlad, sef Caerdydd ac Abertawe, yn ôl yn Ewrop.

Felly beth am ganiatau’r Adar Glas, Yr Elyrch ynghyd â Wrecsam, Merthyr Tudful, Bae Colwyn a Chasnewydd i gystadlu yng nghwpan Cymru unwaith eto?

Gallwn barhau gyda’r system bresennol lle mae clybiau fel Llanelli yn ennill eu lle yn Ewrop trwy’r cynghrair. Fodd bynnag, dylai un o lefydd Cymru yn Ewrop fynd i enillwyr Cwpan Cymru – cystadleuaeth fyddai’n cynnwys Caerdydd ac Abertawe.

Pe bai tîm fel Caerdydd neu Abertawe yn cael cystadlu yng Nghwpan Cymru ac yna ennill eu lle yn Ewrop fe fyddai gobaith i ni gael gweld tîm o Gymru yn ennill gêm a hyd yn oed mynd trwy’r rowndiau rhagbrofol.

Collodd y clybiau sy’n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr yr hawl i chwarae yng Nghwpan Cymru yn 1995.

Ers hynny, dim ond clybiau sy’n cystadlu yng nghynghreiriau Cymru sy’n cael chwarae yng Nghwpan Cymru.

Byddai cael Caerdydd, Abertawe a Wrecsam yn cystadlu yng Nghwpan Cymru unwaith eto hefyd yn rhoi mwy o urddas a hygrededd i’r gystadleuaeth.

Yn anffodus, yn y blynyddoedd diwethaf mae rhai o berfformiadau clybiau Cymru yn Ewrop wedi bod yn chwerthinllyd. Pryd oedd y tro diwethaf i un ohonynt ennill ei rownd rhagbrofol?

Mae’n rhaid i bethau newid. Sut y gall Cymru ennill unrhyw barch gan weddill Ewrop heb fuddugoliaethau a heb yr un clwb cystadleuol yn ein cynrychioli?

Mae gan bob gwlad eu prif dimau. Ar y lefel rhyngwladol, byddai gêm rhwng Cymru a Serbia yn un gystadleuol. Ond cymharwch hynny gyda phrif glybiau’r ddwy wlad – Partizan Belgrade a’r Rhyl. Mae’r bwlch yn enfawr – fel y gwelwyd dros y ddau gymal yn ddiweddar.

Pe bai Caerdydd neu Abertawe yn cael chwarae yn erbyn timau fel FC Honka a Motherwell, byddai ganddynt gyfle gwych i ennill.

Mae dau o brif glybiau Cymru yn cystadlu’n galed am le yn Uwch Gynghrair Lloegr. Dyma un o gynghreiriau gorau’r byd, a byddai gweld y clybiau yn cyrraedd y lefel hynny yn hwb gwych i bêl-droed Cymru.
Esiampl Lichtenstein

Ni ddylai’r ffaith bod Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a’r gweddill yn cystadlu yng nghystadlaethau Lloegr, eu hatal rhag chwarae yng Nghwpan Cymru. Maen nhw’n glybiau o Gymru, sy’n chwarae eu pêl-droed yng Nghymru, yn aelod o Gymdeithas Bêl-Droed Cymru ac mae ganddyn nhw gefnogwyr sydd yn Gymry.

Mae ‘na un enghraifft yn Ewrop, sy’n werth nodi wrth ystyried y frwydr i gael hawliau cyfartal i’r clybiau yma.

Mae saith clwb o Lichtenstein yn chwarae eu gemau yng nghynghreiriau’r Swistir. Yr enghraifft orau yw clwb FC Vaduz. Maen nhw erbyn hyn wedi chwarae ym mhrif gynghrair y Swistir.

Er hyn, maen nhw a gweddill clybiau Lichtenstein, sy’n rhan o gystadlaethau’r Swistir, yn parhau i gystadlu am Gwpan Cenedlaethol Lichtenstein bob tymor.

Mae enillydd y cwpan hynny yn hawlio eu lle yng Nghwpan Europa fel cynrychiolydd Lichtenstein.

Felly, pam fo hawl gan glwb o Lichtenstein, sy’n chwarae yn un o gynghreiriau’r Swistir, gystadlu yng Nghwpan Lichtenstein a chynrychioli’r wlad hynny yn Ewrop? Yna, mae clybiau Cymru, sydd yn yr union un sefyllfa, ddim yn cael cymryd rhan mewn cystadlaethau yng Nghymru a Lloegr.

Mae’n rhaid i’r gwahanol awdurdodau pêl-droed gydweithio i sicrhau bod Cymru a Lloegr yn dilyn esiampl Lichtenstein a’r Swistir.

Ystyriwch yr arian y gallai Caerdydd ac Abertawe ennill drwy chwarae yn Ewrop yn gyson, a safon y chwaraewyr y gallai’r ddau glwb eu denu. Byddai’n bosib defnyddio’r arian hynny wedyn i fuddsoddi rhagor yn academïau’r ddau glwb gan ddatblygu mwy o chwaraewyr fel Aaron Ramsey, Joe Ledley a Joe Allen.

Mae’n hen bryd i’r meistri pêl-droed yn Neptune Court yng Nghaerdydd a’r clybiau i eistedd i lawr i ail edrych ar y sefyllfa. Mae’n rhaid sicrhau fod pêl-droed Cymru yn ail ddechrau ennill parch ar lefel Ewropeaidd unwaith yn rhagor.