Gohebydd chwaraeon Golwg, Euros Lloyd, sy’n gofyn pam fod rhaid i Gymru chwarae dan faner Lloegr…
Braf oedd gweld Caerdydd, a Chymru, yn llwyddo ar y llwyfan chwaraeon rhyngwladol unwaith yn rhagor yn dilyn cynnal prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn y Stadiwm Swalec yng Ngerddi Soffia.
Does dim amheuaeth bod cynnal y gêm brawf wedi dod â miloedd i goffrau’r brifddinas gan roi hwb arall i enw da Caerdydd.
Er gwaethaf y llwyddiant yma, nid oedd gwylio Lloegr yn chwarae criced yng Nghaerdydd yn tanio’r dychymyg i mi, a bod yn berffaith onest.
Wrth gwrs, yn swyddogol – ym myd y profion criced – mae Cymru’n cael ei chynrychioli o dan faner San Siôr. ‘Bwrdd Criced Lloegr a Chymru’ yw’r teitl swyddogol ar y corff llywodraethol, ond does dim lle i ddraig ymysg yr holl lewod ‘na ar y bathodyn.
Pwy mewn gwirionedd sy’n ystyried mai tîm i Loegr a Chymru yw hwnnw wnaeth herio Awstralia dros y penwythnos? Yn wir, cyn y prawf cyntaf roedd y rhan fwyaf o newyddiadurwyr Fleet Street yn methu deall pam bod y gêm yn cael ei chynnal y tu allan i Loegr o gwbl.
Doedd dim byd ond sylwadau negatif yn y wasg Brydeinig am allu Caerdydd i gynnal digwyddiad o’r fath.
Ond bu’r prawf cyntaf yn llwyddiant ysgubol ac mae ‘arbenigwyr’ newyddiadurol criced Lloegr wedi’u profi’n anghywir. Roedd Caerdydd a Chymru yn hen ddigon da i gynnal y prawf cyntaf ac mae ‘na deimlad hefyd ein bod ni’n ddigon da hefyd i allu trefnu a chynnal tim criced Cenedlaethol i Gymru.
Roedd rhai o ohebwyr amlwg y wasg chwaraeon yn Lloegr yn cwestiynu pam fod angen i Katherine Jenkins ganu Hen Wlad fy Nhadau fore Mercher. Mae’n berffaith amlwg nad yw’r Saeson yn credu mai tîm Lloegr a Chymru yw hwn, ac a dweud y gwir, dw i ddim chwaith.
Felly beth yw’r pwynt bod yn rhan o dîm pan nad ydych yn cael unrhyw gydnabyddiaeth? Ydi’r Saeson yn credu ein bod ni’r Cymry mor analluog â hynny fel nad ydym yn gallu trefnu tîm criced ein hunain? Neu yn waeth byth, ai dyma sut ydym ni’r Cymry yn teimlo amdanom ni ein hunain?
Os taw torheulo yn ysblander llwyddiant Lloegr yw’r nod – wel, does dim cymaint a hynny o lwyddiant i’w fwynhau, bellach. Ychydig wythnosau yn ôl fe gollodd y tim yn erbyn yr Iseldiroedd yng Nghwpan ugain pelawd y byd. Dwi’n siŵr y gallai Cymru roi gêm i’r Iseldiroedd.
Mae yna ddeg o wledydd yn aelodau parhaol o’r cylch sy’n chwarae’r gêm un dydd ar hyn o bryd. Dyma ‘gewri’r’ byd criced – Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, India, Sri Lanka, Pacistan, Bangladesh, Zimbabwe, India’r Gorllewin a Lloegr.
O dan yr haen honno mae gan yr Alban ac Iwerddon dimau, yn ogystal â Kenya, Canada, yr Iseldiroedd, ac hyd yn oed Afghanistan! Does bosib na allwn ni ddod o hyd i dîm y byddai’n ddigon da i guro’r rheiny?
Pam nad oes gan Gymru dîm criced? Pam nad oes gan Gymru statws annibynnol ar gyfer y gemau un dydd neu’r gêm ugain pelawd, hyd yn oed?
Does dim disgwyl cael statws gemau prawf yn syth – fe ddaw hynny gydag amser!
Ar yr ochor weinyddol, mae gan Gymru dri pherson blaenllaw iawn o fewn y byd criced ar hyn o bryd. Mae David Morgan, cyn cadeirydd Morgannwg, yn Lywydd y Cyngor Criced Rhyngwladol. Mae Hugh Morris hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr criced Lloegr. Yn ogystal â hyn, mae Tony Lewis yn gadeirydd Clwb Criced Marylebone – y clwb sy’n berchen ar Lords, cartref criced Lloegr. Felly mae gan Gymru ddigon o ddylanwad o fewn y gêm, ond eu bod nhw i weld yn ddigon hapus gyda’r ‘traddodiad’ bresennol!
Mae’n ddigon teg dweud nad oes llawer o chwaraewyr Cymru wedi cyrraedd y safon gemau prawf dros y blynyddoedd diwethaf – Robert Croft a Simon Jones yw’r mwyaf diweddar. Mae’n deg dweud hefyd y byddai’r rhan fwyaf o dîm Cymru yn cael ei gynrychioli gan chwaraewyr Morgannwg, sydd ar hyn o bryd yn cael trafferth ennill gêm sirol heb son am gêm ryngwladol.
Ond, i wella safon mae angen i fwy o chwaraewyr Cymru gael y cyfle i chwarae ar y lefel rhyngwladol a hynny er mwyn profi eu hunain yn erbyn y goreuon. Trwy gael tîm cenedlaethol, does dim amheuaeth y byddai Morgannwg a chriced yng Nghymru yn gyffredinol yn elwa hefyd. Byddai tîm cenedlaethol yn denu cefnogwyr ac arian, ac yn ysgogi rhagor o blant a phobl ifanc i fynd allan i chwarae’r gêm, yn ogystal.
Yn 2002, fe wnaeth Cymru drechu’r Saeson mewn gêm un dydd. Erbyn meddwl, efallai mai dyna pam nad yw’r Saeson yn awyddus i weld tîm llawn amser o Gymru.
Mae’r gêm mewn cyfnod o newid mawr ar hyn o bryd ac mae nifer o wledydd ‘newydd’ yn cael y cyfle i brofi eu hunain ar lefel ryngwladol – ac mae’n hen bryd bod Cymru’n cael yr un cyfle.