Euros Lloyd sy’n gofyn a oes angen cosb llymach ar Schalk Burger…
Mae awdurdodau’r byd rygbi wedi bod yn brysur iawn yn dilyn gem y Llewod yn erbyn De Affrica dros y penwythnos.
Mae Schalk Burger wedi cael ei wahardd am wyth wythnos am roi ei fysedd yn llygaid Luke Fitzgerald. Ac mae Bakkies Botha wedi cael ei wahardd am bythefnos am dacl beryglus ar Adam Jones.
Ond mae’n rhaid cwestiynu a yw chwaraewyr yn cael eu cosbi digon am chwarae’n frwnt.
Fe wnaeth anafu Adam Jones gael effaith ar ganlyniad y gêm, gyda sgrymiau heb eu cystadlu yn rhoi mantais fawr i Dde Affrica ar ôl goruchafiaeth agoriadol y Llewod.
Mae’n siwr bod Bakkies Botha yn credu bod y fuddugoliaeth derfynol dros y Llewod yn cyfiawnhau cyfnod o wythnos neu ddwy iddo yn cicio’i sodlau ar yr ystlys.
Mae Botha eisoes wedi ei wahardd am wyth wythnos ychydig flynyddoedd yn ôl am geisio cyffwrdd â llygaid chwaraewr o Awstralia.
Ond os yw chwaraewr yn cael ei anafu oherwydd gweithred anghyfreithlon chwaraewr eraill – oni ddylai’r person euog gael ei wahardd am yr un cyfnod o amser ac y mae’r llall yn ei golli oherwydd yr anaf?
Gallai Adam Jones fod allan am fisoedd, gan effeithio ar ei dymor newydd gyda’r Gweilch a Chymru.
Bydd Bakkies Botha ‘nôl mewn amser i helpu De Affrica gychwyn eu hymgais i ennill y Bencampwriaeth Tair Gwlad. Ydy hynny’n deg?
Bys yn llygad y byd rygbi
A beth am Schalk Burger? Carden felen ac wyth wythnos am gyffwrdd â llygaid Luke Fitzgerald yn y 30 eiliad agoriadol.
Efallai nad oedd y tîm dyfarnu am gael eu gweld yn sbwylio gem brawf cyn iddi ddechrau bron. Ond dan yr amgylchiadau doedd dim opsiwn ond rhoi carden goch i Burger.
Erbyn hyn mae hyfforddwr De Affrica wedi condemnio’r weithred, dan bwysau gan Undeb Rygbi De Affrica.
Ond roedd ei ymateb gwreiddiol yn awgrymu nad oedd yn gweld dim byd o’i le.
Mae’r awdurdodau, y dyfarnwyr a’r hyfforddwr wedi methu â chyfleu’r ffaith bod cyffwrdd gyda’r llygaid yn gwbl annerbyniol.
Dylai Burger fod wedi cael carden goch, a’i wahardd am gyfnod hirach. A dylai’r hyfforddwr fod wedi ei gwneud hi’n glir na fydd chwaraewyr budr yn cael eu dewis i gynrychioli’r tîm.
Yr unig neges i chwaraewyr rygbi ydi bod y fath chwarae yn dderbyniol, ac yn hanfodol er mwyn bod yn gystadleuol mewn rygbi heddiw.