Prestatyn 2–5 Y Drenewydd

Cafwyd canlyniad annisgwyl a gwledd o goliau yng ngêm fyw Sgorio ar Erddi Bastion brynhawn Sadwrn wrth i’r Drenewydd drechu Prestatyn yn Uwch Gynghrair Cymru.

Er i Andy Parkinson roi’r tîm cartref ar y blaen yn gynnar, fe darodd y Drenewydd yn ôl gan ennill y gêm diolch i hatric wych Andy Jones.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y gêm yn gyffrous gyda Jones yn dod yn agos i’r Drenewydd ac felly hefyd Parkinson i’r tîm cartref.

Mater o amser oedd hi tan i’r gôl gyntaf daro cefn y rhwyd a Phrestatyn gafodd hi wedi dau funud ar bymtheg. Cafwyd gwaith creu da gan Rhys Lewis cyn i Parkinson blannu’r bêl yn y gornel isaf.

Daeth Luke Boundford yn agos i’r Drenewydd wedi hynny gydag ergyd o bellter cyn i Jones unioni’r sgôr i’r ymwelwyr gyda gôl dda. Curodd yr amddiffynnwr, Paul O’Neill, gyda chyffyrddiad crefftus cyn crymanu’r bêl i’r gornel uchaf.

Y Drenewydd oedd y tîm gorau erbyn hyn a bu bron i Boundford eu penio ar y blaen ond tarodd y postyn cyn i Zac Evans fethu cyfle euraidd.

Ond gwnaeth Evans yn iawn am hynny ddeg munud cyn yr egwyl gydag ergyd droed chwith ar y cynnig cyntaf. Roedd hi’n gôl dda ond dylai’r eilydd gôl-geidwad ifanc, Gareth Barker, fod wedi gwneud yn well.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda’r Drenewydd ar dân. Cafodd Boundford gyfle gwych yn yr eiliadau cyntaf ond ergydiodd yn syth at Barker.

Ond roedd y golwr ar fai ddeg munud yn ddiweddarach pan sgoriodd y Drenewydd eu trydedd. Pasiodd y bêl yn syth i lwybr Jones a sgoriodd yntau ei ail o’r gêm ar yr ail gynnig.

Digon blêr o safbwynt Prestatyn oedd pedwaredd y Drenewydd ugain munud o’r diwedd hefyd. Aeth pas yn ôl at Barker yn sownd yn y mwd a manteisiodd Craig Whitfield i rwydo ar y cynnig cyntaf.

Roedd hi’n bump, ddeg munud yn ddiweddarach wrth i Jones gwblhau ei hatric mewn steil. Er mai dim ond ers ychydig wythnosau y mae’r cyn amddiffynnwr wedi bod yn chwarae fel blaenwr, fe gododd y bêl yn gelfydd dros y gôl-geidwad i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Ac mewn gêm o goliau safonol roedd digon o amser i Ross Stephens rwydo gôl gysur hwyr i’r tîm cartref gydag ergyd dda i’r gornel isaf o ugain llath.

Mae’r Drenewydd yn aros yn yr unfed safle ar ddeg yn y tabl er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dim ond tri phwynt sydd yn eu gwahanu hwy a’r Bala yn y chweched safle bellach. Mae Prestatyn ar y llaw arall yn aros yn y trydydd safle.

Ymateb

Capten y Drenewydd, Nicky Ward:

“Roedden ni’n wych o’r dechrau i’r diwedd, fe ddaethon ni i un o’r llefydd anoddaf yn y gynghrair a sgorio pum gôl.”

“Rydyn ni wedi bod yn gwneud popeth yn iawn oni bai am roi’r bêl yn y rhwyd yn ddiweddar, ond heddiw fe wnaethon ni hynny hefyd.

Prestatyn

Tîm: Hill-Dunt (Barker 31’), Davies, Stones, Hayes, O’Neill, Wilson, Parker, Lewis (Murray 68’), Parkinson, Price, Stephens

Goliau: Parkinson 16’, Stephens 90’

Cerdyn Melyn: Ross Stephens 25’

.

Y Drenewydd

Tîm: Roberts, Mills-Evans, Sutton, Rawlinson, Jones (Partridge 90’), Edmunds, Ward, Cook, Williams, Boundford (Whitfield 66’), Evans (Warwick 89’)

Goliau: Jones 24’, 57’, 80’, Evans 35’, Whitfield 73’

.

Torf: 160