Caerlŷr 0–1 Caerdydd
Mae Caerdydd yn parhau ar frig y Bencampwriaeth ar ôl curo Caerlŷr yn Stadiwm King Power brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Craig Bellamy unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf i gipio’r tri phwynt i’r Adar Gleision
Yr ymwelwyr ddechreuodd orau ac fe wnaeth David Marshall yn dda i warchod ei gôl. Arbedodd yr Albanwr gynigion da gan David Nugent a Wes Morgan yn gynnar yn y gêm.
Cafodd Caerdydd eu hachub ddwywaith gan y gwaith coed hefyd. Tarodd ergyd y Cymro, Andy King, yn erbyn y postyn cyn i gynnig Jamie Vardy daro’r trawst.
Ond y tîm cartref a gafodd y gôl gyntaf, a hynny yn erbyn llif y chwarae hanner ffordd trwy’r hanner. Gwnaeth Craig Conway yn dda ar yr asgell chwith cyn darganfod Bellamy ar ochr y cwrt cosbi. Roedd gan yntau ddigon i’w wneud o hyd ond curodd Kasper Schmeichel gydag ergyd gywir i’r gornel isaf.
Parhau i bwyso a wnaeth Caerlŷr tan yr egwyl ond daeth y trawst i’r adwy eto i atal peniad Vardy wrth i hanner amser agosáu.
Cafwyd llai o gyfleoedd yn yr ail gyfnod ond daeth dau eilydd yn agos at sgorio, Martyn Waghorn i’r Saeson a Rudy Gestede i’r tîm cartref.
Cael a chael i Gaerdydd yn y diwedd felly ond buddugoliaeth oddi cartref wych i dîm Malky Mackay.
Mae Caerdydd dri phwynt yn glir ar frig y Bencampwriaeth yn dilyn y fuddugoliaeth on gall Crystal Palace gau’r bwlch gyda buddugoliaeth dros Huddersfield yn hwyrach nos Sadwrn.
.
Caerlŷr
Tîm: Schmeichel, De Laet, Konchesky, Morgan, Whitbread, Drinkwater, King, Dyer (Lingard 68’), Knockaert (Marshall 68’), Vardy (Waghorn 51’), Nugent
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Taylor, Hudson, Turner, Connolly, Whittingham, Conway, Kim Bo-Kyung (Cowie 55’), Mutch (Gunnarsson 76’), Helguson (Gestede 51’), Bellamy
Gôl: Bellamy 25’
Cardiau Melyn: Turner 38’, Connolly 61’, Wittingham 79’
.
Torf: 25,055