Aberystwyth 2–5 Y Rhyl

Mae’r Rhyl ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru ar ôl curo Aberystwyth mewn steil o flaen camerâu Sgorio ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn.

Er mai’r Rhyl sydd yn chwarae mewn cynghrair is, doedd dim llawer o dystiolaeth o hynny wrth i’r tîm sydd ar frig y Cynghrair Undebol y gogledd ennill yn gyfforddus yn erbyn y tîm o’r Uwch Gynghrair.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Rhyl yn dda ond y tîm cartref aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae wedi ychydig dros hanner awr. Anelodd Matty Collins gic rydd i’r cwrt cosbi a pheniodd Stuart Jones y bêl i rwyd wag gyda gôl-geidwad yr ymwelwyr yn nhir neb.

Collins a chic rydd oedd achos ail gôl y gêm hefyd, ond ildio cic osod a wnaeth chwaraewr profiadol Aber y tro hwn a pheniodd capten y Rhyl, Russ Courtney, groesiad Tom Rowlands yn ôl ar draws gôl ac i gefn y rhwyd.

Ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach wedi i Paul McManus anelu cic o’r smotyn i’r gornel isaf yn dilyn trosedd Mike Lewis ar Mark Evans. Roedd gôl-geidwad Aber yn ffodus iawn i aros ar y cae ond roedd y Rhyl yn ddigon hapus.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn union fel y gorffennodd y cyntaf, gyda’r Rhyl ar dân ac yn sgorio. Roedd David Forbes yn anlwcus iawn wrth iddo grymanu ergyd dda o ochr y cwrt cosbi yn erbyn y postyn ond ymatebodd Danny Hughes yn gynt na neb i rwydo ar yr ail gynnig, tair i un wedi dim ond munud o’r ail gyfnod.

Tynnodd Rhydian Davies un yn ôl i Aber bum munud yn ddiweddarach gyda pheniad o groesiad Declan Carroll.

Ond adferodd y Rhyl y ddwy gôl o fantais chwarter awr o’r diwedd pan sgoriodd Hughes ei ail o’r gêm yn dilyn rhediad da o ganol cae.

A gydag amddiffyn Aber yn agored wrth iddynt bwyso yn y pen arall fe ildiodd Cledan Davies gic o’r smotyn arall. McManus gymerodd y gic hon hefyd gan ei hanelu’n galed i’r gornel uchaf.

Buddugoliaeth swmpus i’r tîm o’r gogledd felly a phrawf pellach mai yn yr Uwch Gynghrair mae lle’r Rhyl a’u cefnogwyr.

Ymateb

Russel Courtney, capten y Rhyl:

“Fe wnaeth yr hogia’n arbennig o dda ar ôl taith hir, fe sgorion ni goliau da a chadw’r bêl. Dwi’n meddwl fod hyn yn profi y dylen ni fod yn yr Uwch Gynghrair ac y gallwn ni gystadlu.”

Tomi Morgan, rheolwr Aberystwyth:

“Prynhawn y Rhyl oedd hi achos fe aeth y lwc o’u plaid nhw heddiw. Fe daron ni’r postyn ddwywaith ac fe wnaeth gôl-geidwad y Rhyl ddau arbediad gwirioneddol wych. Yn y cwpan mae angen lwc ambell waith a chawsom ni ddim mohono’r prynhawn yma.”