Abertawe 3–4 Norwich
Daeth rhediad da diweddar Abertawe i ben brynhawn Sadwrn wrth iddynt golli yn erbyn Norwich mewn gêm lawn goliau ar Stadiwm Liberty.
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o dair gôl ar yr egwyl, ac er i Abertawe wneud gêm ohoni yn yr ail hanner, y Caneris aeth â hi yn y diwedd.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi chwarter awr o chwarae pan lwyddodd Steven Whittaker i guro Gerhard Tremmel gydag ergyd i’r gornel isaf yn dilyn gwaith da ar yr asgell dde.
Peniodd Sebastien Bassong yr ail i’r ymwelwyr bum munud cyn yr egwyl wedi i Grant Holt ei ganfod yn y cwrt chwech ac roedd hi’n dair dri munud yn ddiweddarach wedi i Holt ei hun rwydo. Ildiodd Wayne Routledge gic rydd am drosedd ar Robert Snodgrass a pheniodd Holt gic rydd Anthony Pilkington i gefn y rhwyd.
Hanner cyntaf hynod siomedig i’r Elyrch felly ond dangoswyd ysbryd yn yr ail hanner wrth i Miguel Michu dynnu un yn ôl yn gynnar. Methodd Norwich â chlirio cic gornel a llwyddodd Ben Davies i greu unfed gôl ar ddeg y tymor i brif sgoriwr y gynghrair.
Ac roedd Abertawe yn ôl yn y gêm toc cyn yr awr wedi i Jonathan de Guzman sgorio gyda foli daclus yn dilyn gwaith da Nathan Dyer ar y dde.
Roedd Itay Shechter yn meddwl ei fod wedi unioni’r sgôr wedi hynny ond chafodd ei gôl ddim ei chaniatáu gan Howard Webb oherwydd trosedd gan Michu.
Yr ymwelwyr yn hytrach a gafodd y gôl nesaf a thipyn o gôl oedd hi hefyd. Snodgrass yn sicrhau’r fuddugoliaeth gyda chic rydd wych o bellter yn dilyn trosedd Ashley Williams ar Holt.
Golygai hynny mai dim ond gôl gysur yn unig oedd ail gôl Michu yn hwyr yn y gêm.
Mae’r canlyniad yn golygu fod yr Elyrch yn disgyn un lle i’r wythfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair wrth i Arsenal neidio drostynt.
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Chico, Williams, Rangel, Davies, Michu, Dyer, Routledge, De Guzman, Ki Sung-Yeung, Graham (Shechter 68’)
Goliau: Michu 51’, 90’, de Guzman 59’
Cardiau Melyn: Williams 75’, Rangel 89’
.
Norwich
Tîm: Bunn, Martin, Whittaker (Barnett 90’), Bassong, Garrido, Johnson, Snodgrass, Howson, Pilkington, Hoolahan, Holt (Morison 82’)
Goliau: Whittaker 16’, Bassong 40’, Holt 44’ Snodgrass 77’
Cerdyn Melyn: Martin 45’
.
Torf: 20,294