Wrecsam 6–1 Nuneaton
Roedd y Dreigiau ar dân ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn wrth iddynt rwydo chwe gôl yn erbyn Nuneaton yn Uwch Gynghrair y Blue Square.
Roedd hi’n dair i ddim ar yr egwyl ac ychwanegwyd tair arall yn yr ail gyfnod wrth i dîm Andy Morrell godi i’r ail safle yn y Gyngres.
Creodd Morrell y gyntaf i Johnny Hunt wedi ugain munud cyn dyblu’r fantais ei hun ddeg munud yn ddiweddarach yn dilyn gwaith creu Dean Keates.
Ac roedd y tri phwynt fwy neu lai yn ddiogel cyn yr egwyl wedi i Neil Ashton benio croesiad Keates heibio i Adam Smith rhwng y pyst i Nuneaton.
Parhau i bwyso a wnaeth y Dreigiau yn yr ail gyfnod gyda’r eilyddion yn creu argraff. Rhwydodd Robert Ogleby y bedwerydd cyn i Adrian Cieslewicz ei gwneud hi’n bump, saith munud o’r diwedd.
Rhwydodd Wes York gôl gysur i’r ymwelwyr funud o ddiwedd y naw deg, ond y Dreigiau gafodd y gair olaf wrth i Ashton sgorio o’r smotyn wedi i Keates gael ei lorio yn y cwrt cosbi.
Dipyn o fuddugoliaeth i Wrecsam felly a buddugoliaeth sydd yn ddigon i’w codi dros ben Casnewydd i’r ail safle yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square.
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, Ashton, Alfei, Westwood (Walker 68’), Devine, Harris, Keates, Hunt, Ormerod, Morrell (Ogleby 68’), Rushton (Cieslewicz 69’)
Goliau: Hunt 20’, Morrell 31’, Ashton 45’ 90’ [c.o.s.], Ogleby 73’, Cieslewicz 83’
.
Nuneaton
Tîm: Smith, Cartwright, Dean, Forsdick, Gordon, James (Adams 46’), O’Halloran, Walker, Brown, Newton (York 74’), Taylor (Waite 74’)
Gôl: York 89’
Cerdyn Melyn: Walker 62’
.
Torf: 2,739