Kidderminster 3–2 Casnewydd

Llithrodd Casnewydd o frig Uwch Gynghrair y Blue Square wrth golli yn erbyn Kidderminster yn Aggborough brynhawn Sadwrn.

Y tîm cartref aeth ar y blaen gyntaf ond brwydrodd Casnewydd yn ôl gyda dwy gôl cyn hanner amser. Ond adferodd Kidderminster eu goruchafiaeth gyda dwy gôl arall yn yr ail gyfnod i ennill y gêm o dair i ddwy.

Peniodd Jamille Matt y tîm cartref ar y blaen o groesiad Danny Pilkington hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Ond roedd Casnewydd yn gyfartal o fewn dim o beth diolch i Michael Smith a’i ergyd gywir i’r gornel isaf. Ac roedd y gwŷr o Gymru ar y blaen erbyn hanner amser diolch i gynnig Lee Evans o bellter.

Wnaeth Kidderminster ddim rhoi’r ffidl yn y to serch hynny ar ôl ildio’r fantais ac roeddynt yn gyfartal toc cyn yr awr diolch i ail gôl Matt o’r gêm – peniad arall, o groesiad Mickey Demetriou y tro hwn.

Ond doedd Matt a Kidderminster heb orffen eto ac enillodd y gêm gyda pheniad arall i gwblhau ei hatric ddeuddeg munud o’r diwedd.

Canlyniad siomedig i Gasnewydd felly a chanlyniad sy’n peri iddynt lithro o frig Uwch Gynghrair y Blue Square i’r trydydd safle.

.

Kidderminster

Tîm: Lewis, Vaughan, Demetriou, Dunkly, Gowling, Storer, Pilkington (Vincent 85’), Gittings, Briggs, Malbon (Rowe 74’), Matt (Blissett 88’)

Goliau: Matt 23’, 58’, 78’

Cardiau Melyn: Storer 64’, Vaughan 74’

.

Casnewydd

Tîm: Julian, James, Yakubu, Pipe, Porter (Minshull 89’), Sandell, Evans, Flynn (Swallow 84’), Jolley, O’Connor, Smith (Washington 83’)

Goliau: Smith 31’, Evans 37’

Cerdyn Melyn: Sandell 74’

.

Torf: 1,951