Scarlets 16–22 Caerwysg
Colli fu hanes y Scarlets am y drydedd gêm allan o dair yng Nghwpan Heineken y tymor hwn yn erbyn Caerwysg ar Barc y Scarlets brynhawn Sadwrn.
Maent bellach ar waelod grŵp 5 ar ôl cipio dim ond pwynt bonws yn unig yn erbyn y Saeson. Cicio cywir y Gwyddel, Gareth Steenson, oedd yn bennaf gyfrifol am y canlyniad.
Fe wnaeth yr ymwelwyr sgorio cais hefyd a hynny wedi dim ond pum munud o chwarae – y cefnwr, Luke Arscott yn bylchu cyn rhyddhau’r mewnwr, Haydn Thomas, i sgorio.
Saith i ddim i’r ymwelwyr yn dilyn trosiad Steenson felly ond caeodd Rhys Priestland y bwlch i bedwar yn fuan wedyn gyda chic gosb.
Ond roedd sgrym y Scarlets dan bwysau cyson a hynny arweiniodd at ddwy o’r tair cic gosb a droswyd gan Steenson cyn yr egwyl. Ac er i Priestland lwyddo gydag un i’r tîm cartref hefyd, roedd gan Gaerwysg ddeg pwynt o fantais wedi deugain munud.
Ymestynnodd maswr yr ymwelwyr y fantais honno gyda dwy gic gosb arall yn hanner cyntaf yr ail hanner, ac er i’r Scarlets daro’n ôl gyda chais cosb hwyr, dim ond digon i achub pwynt bonws oedd hwnnw.
Siom i’r Scarlets eto felly a bydd rhaid canolbwyntio ar y Pro12 bellach gan y byddant ym mhell ar ei hôl hi yn eu grŵp Cwpan Heineken wedi i Clermont a Leinster wynebu ei gilydd yfory.
.
Scarlets
Cais: Cais Cosb 67’
Trosiad: Aled Thomas 67’
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 8’, 31’, Aled Thomas 56’
.
Caerwysg
Cais: Haydn Thomas 5’
Trosiad: Gareth Steenson 5’
Ciciau Cosb: Gareth Steenson 12’, 24’, 36’, 49’, 60’